• English
  • Cymraeg

W846

W846

Cerflun sebonfaen du o ddyn yn gwisgo cilt, sef perchennog y beddrod mwy na thebyg. Ar y piler du mae dechrau fformiwla offrymu. Roedd y darn hwn unwaith yn rhan o gasgliad Grenfell a brynwyd gan Syr Henry Wellcome mewn arwerthiant ym mis Gorffennaf 1920 ac mae catalog yr arwerthiant yn dweud ei fod yn dod o Aswan. Roedd cerfluniau tebyg yn cael eu gosod mewn beddrodau a themlau yn ystod y Deyrnas Ganol.

Cafodd ffigyrau o ddynion yn gwisgo cilt hir gyda gwasg uchel eu cyflwyno gyntaf yn ystod y 12fed Frenhinllin a’r ffigyrau gyda dwylo’n wastad yn erbyn y cilt yn y Deyrnas Ganol ddiweddar. Mae dau dab i’w gweld ar fand y wasg. Mae’r garreg dywyll a’r diffyg manylder yn nodweddiadol o’r cyfnod. Mae’r droed chwith wedi’i gosod ychydig ymlaen fel mewn cerfluniau eraill.

Mae osgo’r dwylo’n wastad ar y cilt yn ‘ddefosiynol’ ac yn cael ei ddefnyddio i bortreadu swydd offeiriadol pobl o statws uchel (Oppenheim et al. 2015, 20).

Eifftolegwr oedd y Maeslywydd Francis Wallace Grenfell (1841-1925) oedd yn rheoli’r milwyr yn Aswan tua 1885. Rhwng 1885 a 1886 agorodd nifer o feddrodau o’r Hen Deyrnas i’r Deyrnas Ganol yn yr ardal hon. Mae’r arysgrifau yn y beddrodau hyn yn dangos eu bod yn perthyn i reolwyr milwyr oedd yn trefnu cyrchoedd i Nubia. Mae’n bosib i’r cerflun hwn ddod o un o’r beddrodau hynny.

Gan i Grenfell gael ei fagu yn Nhŷ Maesteg, ymddengys fod ganddo ddiddordeb yn Abertawe a rhoddodd nifer o eitemau Eifftaidd i Sefydliad Brenhinol Abertawe (cartref Amgueddfa Abertawe bellach). Ymhlith yr eitemau hyn yr oedd arch yr offeiriad Hor, sydd i’w gweld yn cael ei harddangos yn yr amgueddfa.

Cyhoeddwyd yr eitem hon yn Malek et al. (1999, rhif 801-445-620).

Mae W847 ymhlith eitemau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd a gasglwyd, mwy na thebyg, gan Grenfell.

 

 Other items in the Egypt Centre probably collected by Grenfell include:

W847

 

Darllen pellach:

Bourriau, J. 1988. Pharaohs and Mortals. Egyptian Art in the Middle Kingdom. Cambridge: Cambridge University Press. 

Malek, J.,  Magee, D. and Miles, E. 1999. Topographical Bibliography of Ancient Egyptian Hieroglyphic Texts, Statues, Reliefs and Paintings, VIII, Objects of Provenance Not Known, Part 1. Royal Statues. Private Statues (Predynastic to Dynasty XVII). Oxford: Griffith Institute. 

Oppenheim, A., Arnold, D., Arnold D. a Yamamoto, K. 2015. Ancient Egypt Transformed. The Middle Kingdom. The Metropolitan Museum of Art: Efrog Newydd.

Russmann, E.R. 2001. Eternal Egypt. Masterworks of Ancient Egyptian Art from the British Museum. London: British Museum Press.

css.php