• English
  • Cymraeg

W792

W792

Gwregys gleiniau o leiniau sfferoid, tiwbaidd a silindrig gyda llygad wedjet fel darn canol. Y Deyrnas Ganol. O gladdiad menyw yn Qau. Mae merched sy’n dawnsio weithiau’n cael eu darlunio’n gwisgo gwregysau, er na ddangosir menywod o statws uwch yn eu gwisgo. Fodd bynnag, ceir gwregysau o leiniau cregyn Mair ym meddrodau menywod brenhinol y 12fed Frenhinllin (Aldred 1971, ffigurau. 33, 35 and 48).

Mae dogfen WA/HMM/CM/col 81 Sefydliad Wellcome yn darllen: ‘Jewellery from an intact XII dynasty burial (female) from Qau, Upper Egypt 1923 tomb number 734 comprising-…58224 Waist girdle, cornelian ball beads with eye amulet 25 inch…’ Ymddengys fod yr eitem hon wedi’i rhoi i Henry Wellcome am ei gefnogaeth i Gloddfeydd Cymdeithas Archwilio’r Aifft.

Mae’r eitem hon yn dod o gloddfa Guy Brunton’s yn Qau (Brunton 1930, 1). Mae adroddiad y gloddfa’n disgrifio: ‘Adult female, extended on left side….Round the waist…a string…of carnelian spheroids with one uzat, one barrel, and one cylinder, all carnelian….’. Mae gan y Ganolfan Eifftaidd eitemau eraill o’r bedd hwn (W793-W796), felly hefyd Amgueddfa Petrie (UC25981-5).

Mae’r eitem hon wedi’i gwneud o gornelian (garnelian). Mae cornelian i’w gael mewn sawl safle i’r dwyrain o’r afon Nîl yn yr Aifft. Roedd cornelian yn cael ei gysylltu â gwaed ac felly bywyd, ond hefyd â’r duw Seth. 

Darllen pellach

 

Aldred, C. 1971. Jewels of the Pharaohs. London: Thames and Hudson. 

Brunton, G. 1930. Qau and Badari III. London: British School of Archaeology in Egypt. 

Brovarski, E. Doll, S.K. and Freed, R. E. 1982. Egypt‘s Golden Age. The Art of Living in the New Kingdom. 1558-1085 BC. Boston: Museum of Fine Arts Boston, 242-243.

 

css.php