• English
  • Cymraeg

W56

W56

Mae’r stela hwn yn portreadu dwy neidr o fewn naos (math o feddrod). Maen nhw’n cynrychioli Isis-Thermouthis a Serapis (Serapis yw’r un farfog ar y dde). Cymhares Serapis oedd Isis, a daeth y ddau i ymgorffori galluoedd ffrwythloni gwryw a benyw. Mae’r ddau weithiau’n cael eu portreadu ar ystlysbyst drws fel seirff gyda phennau dynol.

Duw cyfansawdd oedd Serapis yn cyfuno’r duw Eifftaidd Osorapis (yntau yn gyfuniad o Osiris ac Apis) gyda phriodoleddau duwiau Groegaidd fel Zeus, Dionysos. Daeth Serapis yn wybyddus dan Ptolemy I (305 -285 CC) a chanolfan ei gwlt oedd y Serappeum yn Alexandra.

Mae Isis-Thermouthis yn cyfuno Isis a’r cobra-dduwies Renenutet (Groeg Thermouthis). Gwarchodwraig y brenin a’r cynhaeaf oedd Renenutet. Dan Amenhat II a IV, adeiladwyd teml iddi ym Mouthis, lle’r oedd yn cael ei hadnabod fel Thermouthis (‘Boneddiges Mouthis’). Fel duwies grawn mae’n cael ei chysylltu ag Osiris yn ei ffurf ieuanc, ac felly’n cael ei huniaethu ag Isis.

O 30 CC, pan goncrodd y Rhufeiniaid yr Aifft, lledodd cyltiau Isis a Serapus i gonglau pellaf yr ymerodraeth Rufeinig, hyd yn oed i Lundain.

 

More snake related items in the Centre

Information on Isis

css.php