• English
  • Cymraeg

w553

Dyma sistrwm aloi copr (math o ratl).[i] Roedd y tyllau ar ochr y cylch ar gyfer croesfarrau y byddai tincialau a disgiau bach metal wedi bod arnynt a fyddai wedi cloncian wrth eu siglo. Mae’r darn ar frig y cylch ar goll ond efallai yr oedd yn gath neu’n grŵp o gathod bach sy’n aml yn cael eu darganfod ar sistra ac yr ystyrir iddynt gynrychioli fersiwn lonydd o Sekhmet. Mae’r ddolen ar ffurf Bes ar ben pen y dduwies Hathor. Cafodd yr eitem ei phrynu gan Wellcome mewn arwerthiant ym 1919.[ii]

Mae dau fath sylfaenol o sistra, y rhai hynny â brig ar ffurf teml (cysegrfa) a’r llall gyda brig cylchol fel yr un hwn. Daeth y ffurf gylchol yn fwy cyffredin yn y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig. At ei gilydd, mae’n mesur 17cm o ran uchder, sy’n ei wneud yn llai na llawer o enghreifftiau eraill o’r math hwn. Oherwydd ei faint, credwn y caiff ei ddefnyddio naill ai gan blentyn neu yr oedd yn offrwm i’r duwiau, yn hytrach nag enghraifft a fyddai’n cael ei defnyddio mewn seremonïau.

Gair Groegaidd yw ‘sistrwm’ (y lluosog yw ‘sistra’). Ond yr enw Eifftaidd am yr offeryn oedd ‘sesheshet’, gair yr ydym yn credu, drwy onomatopoeia, sy’n efelychu sŵn sïo Hathor wrth iddi gerdded drwy blanhigion papyrws yn y corstiroedd. Dywedid yr oedd sŵn y sistrwm hefyd yn llonyddu’r duwiau. Mae arysgrif Groegaidd-Rufeinig yn Dendera yn dweud: ‘Mae sistrwm naos eich ysbryd ka yn dileu eich dicter’. Fodd bynnag, nid yw’n glir os oedd gan gerddoriaeth swyddogaeth ‘ddychryn’ neu apotropaïg.[iii]

Yn gyffredinol, menywod a oedd yn chwarae sistra yn ystod seremonïau crefyddol, er bod portreadau o ddynion yn eu siglo, offeiriaid yn bennaf. Offeryn Hathor oedd y sistrwm, a hithau’n dduwies ffrwythlondeb yr oedd ei gwyliau’n cynnwys cerddoriaeth, dawns a meddwdod. Gellid hefyd gynnig cerddoriaeth i’r meirwon, er ni châi ei chynnig byth i Bes. At hynny, er gwaethaf y ffaith bod Bes yn gysylltiedig â Hathor a’i fod ef, fel y sistrwm, yn gysylltiedig â chorstiroedd, nid wyf yn ymwybodol o bortreadau o Bes yn chwarae sistrwm.[iv]

Mae Bes a Hathor yn anghyffredin ymhlith duwdodau Eifftaidd gan y cânt eu dangos o’r tu blaen. Yn ogystal, yn aml iawn, pen pob duwdod yn unig a fyddai’n cael ei ddangos ar ei ben ei hun.

Mae dau fath sylfaenol o sistra, y rhai hynny â brig ar ffurf naos (cysegrfa) a’r llall â brig cylchol. Daeth y ffurf gylchol yn fwy cyffredin yn ystod y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig (332 CC – OC 395).

 

Prynodd Wellcome yr eitem hon ym 1919.

[i]Am ragor o wybodaeth am sistra, gweler: A. Barahona, ‘Ancient Objects Relating to Music and Ancient Egypt in the National Achaeological Museum of Madrid’, yn M. Eldamaty a M. Trads (golygyddion), Egyptian Museum Collections Around the World. Studies for the Centennial of the Egyptian Museum, Cairo Cyfrol 1. (Cairo, 2002), tt. 75–87; M. Reynders, ‘Names and Types of Egyptian Sistra’, yn W. Clarysse, A. Schoors a H. Willems (golygyddion), Egyptian Religion the last thousand years. Studies dedicated to the memory of Jan Quaegebeur Rhan II (Leuven, 1998), tt. 1014–26.

[ii]Catalog Gwerthu Sotheby 18.7.1919, casgliad 162.

[iii]Tra y byddai cerddoriaeth yn cael ei defnyddio i godi ofn ar adar, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw achosion lle cafodd ei defnyddio i godi ofn ar endidau eraill. Nid yw hyn yn golygu nad oedd yn apotropaïg. Ym syml, mae’n golygu nad oes tystiolaeth glir. Mae’n bosib bod y ffordd y mae cantorion yn ymddangos fel eu bod yn troi tuag ato yn awgrymu nodwedd apotropaïg, gan fod demoniaid weithiau’n cael eu portreadu’n wynebu’r blaen (ceir mwy ar hyn yng nghyfrol tt. 00–00).

[iv]Mae Hans Hickmann, yn Dieux et Déeses de la Musique (Cahiers d’Histoire Egyptienne, Cyfres VI, (1954), yn honni nad oes enghreifftiau o Bes yn chwarae sistrwm ac y gellir esbonio ei hoffter am offerynnau taro gyda’i darddiad Niwbiaidd.

 

2nd year undergraduate unedited dissertations on W553

More information on sistra

css.php