• English
  • Cymraeg

W5003

w5003

Shabti pren ar ffurf mymi o’r Deyrnas Newydd gyda wig dridarn. Mae araen lliw du a melyn yn dal i fod arno.

Mae’r paent sy’n weddill ar y shabti hwn yn sylwedd du sgleiniog gyda’r manylion wedi’u hamlygu mewn melyn. Roedd lliwiau du a melyn hefyd yn gyffredin ar eirch y Deyrnas Newydd. Mae’r lliw du yn fath o resin. Gweler Serpico (2000, 459-460) am ragor o wybodaeth ar yr araen. Roedd lliw du’n gysylltiedig ag Osiris.

Yn debyg i shabtis eraill o’r Deyrnas Newydd mae hwn yn tueddu i fod ychydig yn fwy na llawer o shabtis eraill. Mae’n 210mm o uchder.

Arysgrifiwyd y teitl ‘Hudoles Amun’ ar y shabti hwn, ond mae’r arysgrif yn annarllenadwy ar y cyfan. Erbyn y Deyrnas Newydd, y teitl hwn, ar ôl ‘Meistres y Tŷ’ oedd y teitl mwyaf cyffredin i fenywod elitaidd. Roedd menywod o’r fath yn offeiriaid lleyg yn gysylltiedig â themlau (gweler Onstine 2005 am ragor o wybodaeth).

Roedd shabtis yn gweithredu fel eilydd yn y bywyd nesaf i’r unigolyn a fu farw ac mae’r mwyafrif i’w canfod mewn beddrodau. Fodd bynnag mae’r ffaith fod nifer hefyd i’w canfod mewn temlau’n awgrymu eu bod hefyd yn gweithredu fel eilyddion i’r meirw yn y bywyd hwn.

Prynwyd yr eitem hon gan Wellcome mewn ocsiwn yn 1933.

Eitemau eraill yn perthyn i fenywod â’r teitl Hudoles Amun

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Cyfeiriadau

Onstine, S.L., 2005. The Role of the Chantress (Smayt) in Ancient Egypt. Oxford: Archaeopress. 

Serpico, M., 2000. Resins, amber and bitumen in Nicholson, P.T. and Shaw, I., Ancient Egyptian Materials and Technology, Cambridge: Cambridge University Press, 430-474.  

Schneider, H.D., 1977. Shabtis. An Introduction To The History Of Ancient Egyptian Funerary Statuettes With A Catalogue Of The Shabtis In The National Museum Of Antiquities at Leiden. Leiden: Rijksmuseum van Oudheden. 

Stewart, H.M., 1995. Egyptian Shabtis. Princes Risborough: Shire.

css.php