• English
  • Cymraeg

W422

 

W422

 

Cwpan blodyn lotws faience gydag addurn glas-ddu wedi’i beintio arno. Mae’r goes a’r droed ar goll. Yn wreiddiol, rhan o gasgliad MacGregor a brynwyd gan Wellcome ym 1922. Mae gan Ganolfan yr Aifft gwpan blodyn lotws carreg hefyd.

 

Yn y Deyrnas Newydd y mae cwpanau lotws o’r fath yn ymddangos ac maen nhw’n nodweddiadol o’r Aifft. Mae’r lotws neu lili’r dŵr yn agor bob dydd ar godiad haul. Felly byddai’n cael ei chysylltu ag ailenedigaeth.

Mae rhai wedi awgrymu bod ei phriodoleddau narcotig hefyd yn cael eu defnyddio gan yr Eifftiaid (gweler Harer 1985 a Emboden 1981). Fodd bynnag, mae astudiaethau diweddar yn awgrymu na allai fod â phriodoleddau o’r fath (Counsell 2008). Mae’n bosib, fodd bynnag, fod gan yr arogl melys nodweddion adfywiol. Mae Swyn 81 yn Llyfr y Meirw ar gyfer trawsnewid person i lotws: ‘Spell for assuming the form of a lotus. To be said by N. I am this pure lotus that has ascended by the Sunlight and is at Re’s nose. I spend my (time) shedding (i.e. the sunlight) on Horus. I am the pure lotus that ascended from the field.’ Y cyfieithiad o Allen (1974).

Roedd y syniad o ailenedigaeth yn cael ei hyrwyddo gan y defnydd o faience i gynhyrchu’r cwpan. Roedd faience ynddo’i hun yn gysylltiedig â bywyd ac ailenedigaeth.

Oherwydd na ddangosir cwpan lotws glas fel arfer mewn golygfeydd yfed, awgrymwyd mai dim ond fel llestr cwlt mewn temlau neu ddefodau’r meirw y byddai’n cael ei ddefnyddio (Tait 1963). Ond mae rhai dyluniadau o gwpanau’n eu dangos fel cynwysyddion yn dal llysiau a blodau. Fodd bynnag, cafodd darn o liain o ddyddiad Ramesside ei beintio â llun o foneddiges yn dal cwpan lotws. Mewn nifer o ddysglau faience mae cwpan lotws glas yn cael ei ddefnyddio i ddal diod-offrwm.

Gweler Brovarski, et al. (1982 145-148) am enghreifftiau eraill.

Mae cwpan lotws tebyg yn dyddio o’r Deyrnas Newydd wedi’i gyhoeddi yn Scott 1986, 106-107.

Cyfeiriadau

Brovarski, E. Susan K. Doll, S.K. a Freed, R.E. eds. 1982, Egypt ‘s Golden Age. The Art of Living in the New Kingdom . 1558-1085 BC. Museum of Fine Arts Boston.

Counsell, D.J. 2008 Intoxicants in ancient Egypt? Opium, nymphea, coca and tobacco. In R. David Egyptian Mummies and Modern Science, Caergrawnt: Cambridge University Press, 195–215.

Emboden, W. 1981. Transcultural Uses of Narcotic Water Lilies in Ancient Egyptian and Maya Drug Ritual. Journal of Ethnopharmacology, 3, 39–83

Friedman, F.D., 1998. Gifts of the Nile . Ancient Egyptian Faience. Thames and Hudson.

Harer, W. B. 1985. Pharmacological and Biological Properties of the Egyptian Lotus. Journal of the American Research Center in Egypt, 22, 49–54.

Scott, G.D. 1986. Ancient Egyptian Art at Yale Yale University Art Gallery.Tait, G.A.D. The Egyptian Relief Chalice. Journal of Egyptian Archaeology 49, 93–139.

 

css.php