• English
  • Cymraeg

 


 w310Mae’r ddysgl garreg hon wedi’i gwneud o gneis anorthosit ac mae iddi drawsfesur o 15cm. Fe’i cafwyd yn Coptis ac mae’n dyddio o’r cyfnod Dynastig Cynnar-Yr Hen Deyrnas Gynnar.

Ymddengys iddi gael ei chasglu gan Mrs Berens. Offeiriad Sidcup Place oedd Randolph Humphery Berens, née McLaughlin (1844-1922). Cymerodd yr enw Berens pan briododd ag Eleanor Frances Berens yn 1877. Galluogodd ei chyfoeth hi iddo deithio a chasglu hynafolion. Roedd hithau hefyd yn casglu. Gwerthwyd ei gasgliad ef yn Sotheby’s ar 18 Mehefin 1923. Gwerthwyd casgliad ei wraig ar 29 Gorffennaf 1923 a 31 Gorffennaf 1923 (Bierbrier 1995, 42-43). Gan i’r eitem hon gael ei gwerthu ar 31 Gorffennaf mae’n dod o gasgliad Mrs Berens. Mae gan y Ganolfan o leiaf 19 o eitemau Berens sy’n dod o’r naill gasgliad neu’r llall.

Mae llun yng nghasgliad y Ganolfan sy’n dangos y darn wedi torri. Rywbryd yn y gorffennol diweddar (1971-1997) cafodd y ddysgl ei thrwsio ond gadawyd dau ddarn allan o’r ailwneuthuriad. Cafwyd hyd iddynt ar wahân yn stordy’r amgueddfa yn 2000.

Darllen pellach:

Bierbrier, Morris 1995. Who Was Who in Egyptology. Llundain: Egypt Exploration Society.

el-Khouli, A. Egyptian Stone Vessels Predynastic Period to Dynasty III. Typology and Analysis, Mainz am Rhein, 1978 (3 cyfrol)

 

 

css.php