• English
  • Cymraeg

 

w283

Mae peli cylchrannog gau faience fel y rhain wedi’u canfod ar derfyn cadwyni gwddf. Mae’n ymddangos eu bod hefyd yn offrymau diofryd (Pinch 1993, 268-9). Mae’r mwyafrif i’w dyddio i’r Deyrnas Newydd ond mae rhai wedi’u darganfod sydd mor gynnar â’r 11eg Frehinllin. 

Mae nifer wedi’u cloddio yng nghyffiniau teml Hathor yn Faras. Awgrymwyd i’r deml hon gael ei chysegru i Hathor, Arglwyddes Ibshek, ei hadeiladu tua 1770CC, a’i helaethu yn nheyrnasiad Ramesses II. Mae gleiniau gau wedi’u darganfod ar safleoedd eraill oedd wedi’u cysegru i Hathor, fel Deir el-Bahri a Dendera. 

Mae gleiniau sydd wedi torri yn dangos olion o ffibrau cyrs sy’n awgrymu bod y gleiniau wedi’u gwneud trwy fowldio’r faience o gwmpas craidd organig. Pan fyddai’r faience wedi’i boethi byddai’r craidd yn llosgi allan (Friedman 1998, 259). 

Mae peli lledr o liwiau eiledol o rhwng pedair a deuddeg cylchran i’w cael o’r Deyrnas Ganol ymlaen (Nicholson a Shaw 2000, 309). Er enghraifft, mae peli cylchrannol coch a melyn mewn lledr wedi’u darganfod yn el-Riqqa (UC31433 Nicholson a Shaw 2000, 311, ffig. 12.7) yn mesur tua 7cm ar eu traws. Mae’n bosib mae copïau o’r rheiny yw ein henghreifftiau faience ni, er na fyddai rhai faience, oherwydd eu breuder, yn debygol o fod wedi’u defnyddio mewn gemau. Yn wir, mae’n bosib nad oedd yr enghreifftiau lledr hyd yn oed wedi’u defnyddio mewn gemau gan mai o feddau y daeth y rhai sydd ar gael. Efallai bod i gemau pêl, fel y gêm sennet, arwyddocâd crefyddol. 

Rhan o gasgliad MacGregor oedd ein heitem ni cyn iddi gael ei phrynu gan Welcome ym 1922.

Blog Post including these objects.

 

Llyfryddiaeth

Bourriau, J., 1988. Pharaohs and Mortals Egyptian Art In The Middle Kingdom, Cambridge: Cambridge University Press. 132-3. 

Friedman, F.D. (ed.) 1998. Gifts of the Nile. Ancient Egyptian Faience. New York: Thames and Hudson. 

Nicholson, P.T. and Shaw, I. 2000. Ancient Egyptian Materials and Technology. Cambridge: Cambridge University Press. 

Pinch, G. 1993. Votive Offerings to Hathor. Oxford: Griffith Institute.

css.php