• English
  • Cymraeg

W277 Cornelian beads

W277

Mae’r gadwyn wddf hon o leiniau cornelian yn dyddio o’r Deyrnas Ganol. Mae’r gleiniau wedi’u hail-linynnu mewn cyfnod diweddarach ac amhosibl gwybod a gafodd y gleiniau i gyd eu darganfod gyda’i gilydd. Mae’r tri glain canol ar ffurf pen neidr ac mae cylchoedd wedi’u hysgythru ar ddau ohonynt yn awgrymu llygaid.

Mae crogdlysau ar ffurf pen neidr o bosib i’w dyddio i’r Deyrnas Ganol (Andrews 1981, 66 rhifau 430-432) neu’r Deyrnas Newydd (Andrews 1994, 85). Fodd bynnag, i’r Deyrnas Ganol y perthyn rhai’r un siâp â’n un ni (yr Amgueddfa Brydeinig EA 30860, Andrews 1981, 65 rhif 422). Mae crogdlysau tebyg yn cael eu darlunio yn Engelbach a Gunn (1923, pl.LI.44).

Mae’r amwled pen neidr Menqet neu Mekert yn cael ei ddisgrifio yn Swyn 101 o Lyfr y Meirw. Roedd amwledau o’r fath yn aml yn cael eu rhoi am wddf y mymi.

Prynwyd yr eitem hon gan Wellcome mewn arwerthiant ym 1924

Darllen Pellach: 

Aldred, C.A.R. 1971. Jewels of the Pharaohs. Egyptian Jewellery of the Dynastic Period. London: Thames and Hudson. 

Andrews, C.A.R. 1981. Catalogue of Egyptian Antiquities in the British Museum VI. Jewellery I from the Earliest Times to the Seventeenth Dynasty. London: British Museum Press.  

Andrews, C.A.R. 1990. Ancient Egyptian Jewellery. London: British Museum Press. 

Andrews, C.A.R. 1994. Amulets of Ancient Egypt. London: British Museum Press. 

Engelbach, R. and Gunn, B. 1923. Harageh. London: British School of Archaeology in Egypt.

css.php