• English
  • Cymraeg

 

Duck-legged stool

W2060

Coes o stôl gau â phen hwyaden. Mae “Theban” wedi’i ysgrifennu’n goch ar yr arteffact. Mae’n 223mm o hyd.

Mae enghreifftiau cyflawn yn dangos y gwnaed llawer o stolau o ddau ffrâm sy’n cyd-gloi gyda sedd ledr. Gallwch weld gopi o enghraifft gyflawn yn y cas hwn.

Er bod stolau cau yn dyddio o’r Deyrnas Ganol, mae’r rhan fwyaf yn dyddio o’r Deyrnas Newydd. Hefyd, erbyn y Deyrnas Newydd, mae’r darnau’n fwy cymhleth ac yn cynnwys pennau hwyaid. O ganlyniad, cymerir yn ganiataol bod yr enghraifft hon yn dyddio o’r Deyrnas Newydd.

Mae stolau cau yn ymddangos ar baentiadau beddau yn ogystal â dodrefn beddau. Ar y dodrefn, mae gan nifer o ddarnau frithwaith ifori yn y llygaid ac yn y pig. Mae’n bosib yr oedd gan ein un ni frithwaith ar un adeg. Mae stôl o fedd Tutankhamun yn dynwared y stôl gau  ar ffurf pen hwyaid yn y terfynfeydd a’i hymddangosiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae’n anhyblyg.

Awgrymwyd bod y stôl gau yn symbol o statws, ac mae’n wir bod yr enghreifftiau gyda brithwaith ifori yn annhebygol o fod wedi cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o’r boblogaeth. Ar addurniadau beddau, mae’n debyg y defnyddid stolau i bobl bwysig yn y gymdeithas.

Mae’n debyg mai nid yn yr Aifft yn unig y defnyddid stolau cau fel hyn. Cawsant eu defnyddio yn Nhenmarc hefyd.

Darllen pellach:

 

Killen, G.P. 1980 (vol 1), 1994 (Vol 2), Ancient Egyptian Furniture. Warminster: Aris and Phillips. 

Killen, G.P. 1994, Egyptian Woodworking and Furniture. Princes Risborough: Shire Egyptology.  

Sweeney, D. 1998. ‘The man on the folding chair: An Egyptian Relief from Beth Shean’, Israel Exploration Journal 48, 38-53. 

Wanscher, O. 1980. Sella Curulis. The Folding Stool An Ancient Symbol Of Dignity. Copenhagen: Rosenkilde and Bagger.

css.php