• English
  • Cymraeg

 

treegoddess

Dduwies Fasarn

 

Mae’r olygfa hon yn dangos duwies y fasarnen, gyda’r bluen Ma’at ar ei phen, gan sefyll o flaen y goeden a chan roi diod-offrymau i’r offeiriades sy’n penlinio. Mae ei haderyn ba yn sefyll rhwng yr offeiriades a’r dduwies. Mae portreadau o’r fath o dduwiesau coed yn adfywio’r ymadawedig yn gyffredin o’r 18fed Frenhinlin (1500 CC ymlaen) ac mae gan y Ganolfan bortread arall o olygfa debyg ar ddarn o cartonnage (OC490).

Gosodir golygfa duwies y fasarnen yn cynnig maeth i’r ymadawedig yn gyffredin iawn ar ben traed eirch yr 21ain ganrif, yn aml o flaen motiff yr Hathor ar fynydd (Billing, 2002, 293), er enghraifft ÄS6265 o Wein (CAA 1994). Nid yw’n harch ni’n eithriad felly. Awgryma Niwiński (2006) y gallai golygfa duwies y fasarnen, fel honno o Hathor yn dod allan o’r mynydd, bortreadu ar un lefel ymweliad gwirioneddol â Deir el-Bahri. Plannwyd masarn y tu allan i deml Montuhotep yn Deir el-Bahri. Fodd bynnag, plannwyd coed, yr oedd y fasarnen yn enghraifft berffaith ohonynt i’r Eifftiaid, o amgylch beddau hefyd yn fwy cyffredinol (Wilkinson 1998, 36-118) ac mae’n bosib iawn y gallai wedi bod yn fan offrwm i’r ymadawedig. Mae Billing (2002, 293) yn dyfynnu cyfeirnod sy’n nodi lleoliad duwies y fasarnen fel ‘Maes Dinas y Meirwon’.

 

Er bod gwreiddiau’r syniad o dduwies y coed yn mynd yn ôl at Destunau’r Pyramidiau (Billing 2002), nid oedd portreadau’n gyffredin yn y Deyrnas Newydd, â’r enghraifft gyntaf yw ym medd Thutmosis III (1479-1426 CC). Maent hefyd yn amlwg mewn beddau eraill y Deyrnas Newydd ond yn enwedig o gyffredin yn eirch yr 21ain Frenhinlin. Mewn rhai achosion, mae duwies y fasarnen yn rhan o’r goeden, er drwy gydol y Trydydd Chyfnod Canol, cafodd y dduwies ei gwahanu’n fwyfwy o’i choeden (Billing 2002, 200).

 

Dangosir duwies y fasarnen ar arch Abertawe, fel ar eirch eraill yn ogystal â duwiesau eraill ar ein harch, yn gwisgo ffrog â phatrwm diemwntau. Gallai hyn gynrychioli’r awyr serennog neu, fel arall, blu’r hebog. Mae hunaniaeth duwies masarnen Abertawe yn amwys. Datgana Billing (2002) y gallai nifer o dduwiesau mam ymddangos fel duwies y goeden, a oedd yn ddienw yn aml yn fwriadol. Ar eirch yr 21ain Frenhinlin, Nut yw hi fel arfer (Keel 1992, 89; Billing 2002, 303) neu’n llai cyffredin, duwies y Gorllewin, Hathor, Isis neu Neith. Galwyd Hathor yn aml yn ‘Feistres y Fasarnen’. Ymddengys ein duwies ni yw Nut wedi’i chyfuno â Ma’at o bosib.

 

Mae Billing (2002,0297, 304) yn ei hystyried yn dduwies y Gorllewin, yn ôl pob tebyg yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r bluen ar ben y dduwies. Fodd bynnag, fel arall, gall y bluen fod yn berthyn i Ma’at. Mae’r testun yn cefnogi hyn o bosib. Mae’r pedair colofn o ysgrifen o flaen ei phen yw:

 

: Htp di nsw MA’t …

sAt Ra…..  

imn di s Htp

m anxw…..

 

Gellir cyfieithu hyn fel: ‘offrwm y mae’r brenin yn ei roi i Maat, Merch Re [i Gantores] Amun [er mwyn] iddi roi offrwm o fywyd.

Y tu ôl i ben yr ymadawedig yw’r glyffiau a allai fod yn rhan o’r holl ymadrodd neu beidio. Mae’r rhain yn golygu:

 

Htp imntt

‘offrwm y gorllewin’, h.y. offrwm angladdol.

 

Yr eitem ar lin glyff y dduwies sy’n eistedd yw pluen mwy na thebyg er ei fod yn anodd dehongli. Serch hyn, mae’r label y tu ôl i’r goeden yn dweud:

 

Nwt wrt ms nTr (w)….

‘Nut Mawr, a anwyd o’r duwiau.’

 Mae ‘Nut Mawr’ yn ymddangos fel teitl i Nut o’r Deyrnas Newydd ac ar eirch yr 21ain Frenhinlin (Leitz 2002, cyfrol IV, 538–539). Ar ochr gyferbyn yr arch, wrth y traed, ceir testun tebyg. Nid yw natur syncretaidd duwiesau Eifftaidd yn anarferol. Er enghraifft, ar Uppsala VM 228 (Billing 2002, 303, ffig. E6; Englund 1974, ffig. 7), mae’r dduwies yn gwisgo arwydd Neith ond fe’i gelwir yn Nut yn y testun.

Ffigysen masarnen oedd y goeden fel arfer (er defnyddid y gair am fasarnen, nht, fel y gair cyffredinol am ‘goeden’). Yn aml, dengys y dduwies yn arllwys hylif adfywiol i ddwylo’r ymadawedig wrth i’w ba (ar ffurf aderyn â phen dynol) sefyll yn agos gerllaw neu ysgwyd adenydd yn y canghennau (Žakbar 1968, 144–145). Mae’r ba, fel y Gantores, yn gwisgo côn o bersawr ar ei ben. Cred rhai Eifftolegwyr y gwisgwyd y côn persawr mewn bywyd bob dydd, ac eraill ei fod yn symbol yr oedd yr unigolyn yn arogli’n braf.

Mae duwies y goeden fel arfer yn gysylltiedig â Phennod 59 Llyfr y Meirwon. Mae Penodau 109 a 149 Llyfr y Meirwon yn disgrifio ymhellach ddwy ‘fasarnen wyrddlas’ efell a oedd yn sefyll wrth borth dwyreiniol nef lle ymddangosai Re bob dydd. Weithiau, mae coed tebyg yn ymddangos ar baentiadau beddau’r Deyrnas Newydd gyda tharw neu lo ifanc yn ymddangos oddi wrthynt, gan symboleiddio Re

Mae gan fedd Kenamun yr arysgrif canlynol sy’n disgrifio rôl duwies y goeden wrth i Nut oeri a bwydo’r ymadawedig.

Nut wyf i, ac rwyf wedi dod atat gyda thri rhodd. Rwyt yn eistedd oddi tanaf, gan oeri dy hun oddi tanaf ac oeri dy hun o dan fy nghanghennau. Galluogaf i ti yfed o’m llaeth a byw a chael maeth o’m ddwy fron; canys llawenydd ac iechyd sydd ynddynt… Mae dy fam yn dy ddarparu â bywyd. Mae’n dy osod yn ei groth lle mae’n beichiogi….

Wilkinson (1998, 99–100)

Galwyd sudd o ffrwythau’r ffigys masarnen a’i dail gwyn llaethog gan yr Eifftiaid yn ‘llaeth y fasarnen’. Fe’i defnyddid i wella anafiadau a chrawniadau. Defnyddiwyd dail y fasarnen fel amwledau angladdol.

 

 

Billing, N. 2002. Nut the goddess of life in text and iconography. Uppsala: Uppsala University.

Englund, G. 1974. Propos sur l’iconographie d’un sarcophage de la 21e dynastie. Boreas 6, 37–63.

Keel, O 1992. Das Recht der Bilder gesehen zu werden, Drei Fallstudien zur Methode der Interpretation altorientalischer Bilder, OBO, Orbis Biblicus et Orientalis Freiberg: Universitätsverlag.

Leitz, C., Ed. 2002. Lexikon der ägyptischen Götter und Götterbezeichnung. Leuven: Peeters.

Niwiński, A. 2006. The Book of the Dead on the Coffins of the 21st Dynasty. In Backes, B., Munro, I and Stöhr, S. eds. Totenbuch-Forschugen. Gesammelte Beiträge des 2. Internationalen Totenbuch-Symposiums Bonn, 25. bis 29. September 2008. Wiesbaden: Harrassowitz, 245–273.

Wilkinson, A. 1998. The Garden in Ancient Egypt. London: Rubicon Press.

Žakbar, L.V. 1968. A study of the ba concept in ancient Egyptian texts. Chicago: University of Chicago.

Other scenes from this coffin

 

css.php