• English
  • Cymraeg

W151

Llestr basalt wyffurf gyda dwy glust dyllog ar droed fechan gron. Cloddiwyd gan Brunton ym Mostagadda, yr Aifft Uchaf ym 1929. Am wybodaeth ar lestri basalt Cynddynastig gweler Mallory-Greenough (2002). Mwy na thebyg mai math 2d yw hwn sydd, yn ôl Mallory-Greenough (2001, 70) i’w ddyddio i Nagada I-II. Maen nhw’n tueddu i gael eu gweld yng nghladdiadau’n cyfoethog.

Mae’n debygol i ddyluniad llestri o’r math hwn ddod yn wreiddiol o Fesopotamia (Adams 1988).

Mae’r llestr hwn wedi’i gyhoeddi yn (1937, 74, 86 pl 42). Mae tudalen 74 yn darllen ‘11729. Grave covered with matting laid on sticks. Finer matting on and under body’.

Dangosodd Mallory-Greenough et al. (1999) fod ffynhonnell basalt yn yr Aifft Cynddynastig rywle i’r gorllewin o Cairo. Roedd y ffynhonnell hon yn aml yn cael ei dewis yn hytrach na ffynonellau agosach. Anodd dweud pam dewis defnyddio basalt o ffynhonnell mor bell, os nad oedd yn cyflawni rhyw bwrpas ymarferol neu ddefodol anhysbys. Gweler Stocks (2003, 139-165) am wybodaeth ar gynhyrchu llestri.

Other Predynastic and Early Dynastic items in the Egypt Centre

Darllen Pellach:

Adams, B. Predynastic Egypt. Aylesbury: Shire Publications

Brunton, G., 1937, Mostagedda and the Tasian Culture. London: Quaritch.

Mallory-Greenough, Leanne M., John D. Greenough, and J. Victor Owen. 1999. The Stone Source of Predynastic Basalt Vessels: Mineralogical Evidence for Quarries in Northern Egypt. Journal of Archaeological Science 26:1261-1272.

Mallory-Greenough, L.M., 2002. ‘The Geographical, Spatial and Temporal Distribution of Predynastic and First Dynasty Basalt Vessels’ Journal of Egyptian Archaeology, 88, 67-93.

Stocks, D.A. 2003. Experiments in Egyptian Archaeology. Stoneworking Technology in Egypt. London and New York: Routledge.

css.php