• English
  • Cymraeg

 


W150bMae’r cyfeiriad cyntaf at y gwrthrych hwn yn digwydd mewn catalog arwerthiant o eitemau’n perthyn i Robert De Rustafjael (Catalog Sotheby 20.1.1913). Mae lot 219 yn disgrifio:

A very remarkable and exceedingly early penate figure in hard white stone, 12in high; the body cylindrical and with a wide raised band at the base; the head is of rudimentary type, the eyes shown by incised lines, the ears projecting and badly formed. A small hole is drilled at the top of the head; and the base is widely hollowed out to a depth of about 3 ½ inches. Similar objects in ivory and wood are known and have been describes as ”Staffs of Office” ”Magic Wands”, etc; very rare; possibly unique of this size; for a similar object see lot 761.

Mae lot 761, yn ôl y catalog arwerthiant, wedi’i wneud o ifori. Yn ddiweddarach, ail-werthwyd yr eitem hon a chafodd ei phrynu gan Henry Wellcome mewn arwerthiant ym Mai 1919 (Arwerthiant Glendinings 5.5.1919, Lot 812).

Mae W150, y ffigwr carreg, yn 29 cm o uchder ac yn gau i fyny at un rhan o dair o’i uchder. Mae’r ffaith nad yw’r tyllu yn berffaith yn awgrymu i’r eitem gael ei llunio’n gynnar iawn. Fodd bynnag, mae’r twll yn nhop y pen i’w weld yn fwy cyson.

Mae’n debyg mai un o fath o wrthrychau a oedd yn cael eu gwneud o ifori hipopotamws yw hwn. Weithiau maen nhw’n cael eu categoreiddio yn yr un grŵp â ‘thagiau’ wedi’u gwneud o asgwrn neu ifori (gweler Hendrickx ac Eyckerman 2011 am fanylion categoreiddio). Gan amlaf mae’r eitemau hyn yn gau. Fodd bynnag, gan amlaf mae gan y rhai sydd â phennau dynol (Hendrickx ac Eykerman’s math A.5) ddolen i’w hongian ar dop y pen.

Nid yw Eiffolegwyr yn siŵr pa bwrpas oedd i ffigyrau tebyg i hwn. Gall y ffaith ei fod yn gau awgrymu y byddai wedi’i roi ar ben ffon. Ond ar y llaw arall mae’r ffaith fod ganddo waelod gwastad yn arwydd ei fod wedi’i fwriadu i sefyll ar ei draed.

Gall ffurf ein henghraifft ni (mae enghraifft y Ganolfan Eifftaidd yn debyg i’r ysgithrau yn anghymesuredd eu proffil a’u ceudod) fod yn gysylltiedig â’r parau a’r trioedd o ysgithrau ifori addurnedig a gafwyd ym meddau I a III Naqada (4000-3100 CC).

Byddai unwaith yn cael ei ddweud fod ysgithrau gan amlaf yn digwydd mewn parau gydag un solet ac un cau yn cynrychioli gwryw a benyw yn eu tro (Baumgartel 1960: 35-36, 60). Cafwyd pâr o ysgithrau ym medd menyw yn el-Mahasna ger Abydos (Baumgartel 1960: 60). Fodd bynnag, mae Hendrickx ac Eyckerman (2011: 526) yn awgrymu nad yw’r cyfuniad o solet a chau wedi’i brofi.

Mae rhai ysgithrau â chaeadon wedi’u darganfod. Mae Petrie’n datgan y byddai ysgithrau gyda ‘thagiau’ iddynt yn cael eu darganfod yn aml (Petrie 1920, 33-34). Efallai mai cyrc oedd rhai o’r tagiau crwn. Mae’n ymddangos mai gwrthrychau i’w hongian oedd yr ysgithrau oherwydd mae ynddynt dyllau i’r pwrpas hynny. Ar y llaw arall, efallai mai tyllau ar gyfer cysylltu ydynt. Er bod gan yr ysgithrau (grŵp A5 Hendrickx ac Eyckerman) yn ddieithriad dwll ar dop y pen, nid felly ein un ni. Serch hynny mae twll wedi’i dyllu yn y top, fyddai o bosib wedi bod ar gyfer cysylltu rhyw fath o ddolen hongian.

Nid yw’r ffaith mai o garreg y mae’n un ni wedi’i wneud yn golygu nad yw’n ddilys. Yn yr un grŵp â’n un ni (math 5 Hendrick ac Eyckerman) mae dau ffigwr arall, un o sgist a’r llall o frecia, y ddau mwy na thebyg o Gebelein (Lyon 900000171 a Lyon 900000172; Phillips, 1996, 56-57; Hendrickx ac Eyckerman 2011: 510 a de Cenival 1973: 16-17, ffigurau. 1 a 3; mae Marseille, Musée de la Vielle Charité 1990 L’Egypte des millénaires obscurs. Exhibition catalogue Paris – ar y clawr blaen mae’n debyg). Nid oes dolen ar ben yr enghraifft frecia. Ymhlith eitemau sy’n perthyn yn agos (wedi’u categoreiddio weithiau yn yr un grŵp gwrthrychau â ‘thagiau’ pennau dynol ac wedi’u dosbarthu gan Hendrickx ac Eyckerman fel math ‘B5’), mae carreg weithiau’n ymddangos fel petai’n copïo’r enghraifft ifori. Er enghraifft, mae’r ‘tag’ carreg solet o gloddiadau Petrie o fedd 1329 yn Naqada bron yn union yr un fath ag ysgithr o’r un bedd (Payne 1993: 237 rhifau. 1958 a 1959, ffig. 81). Yn wir, o fewn grŵp ‘B5’, mae nifer o enghreifftiau carreg (Hendrickx ac Eyckerman 2011: 513, catalog).

Am fod y gwrthrych hwn mor anarferol, awgrymwyd ei fod yn ffugbeth. Dydyn ni ddim yn sicr. Ar un llaw, does dim un yn union yr un fath ag ef mewn carreg. Mae’n anarferol dod o hyd i enghreifftiau pennau-dynol heb farf, neu o leiaf heb ên bigfain.

Ar y llaw arall, mae nifer o enghreifftiau tebyg i’w cael. Ar ben hynny, mae’n ymddangos mai un o bâr yw’r arteffact ac, fel y dywedwyd uchod, mae’r eitemau hyn yn aml i’w cael mewn grwpiau o ddau neu dri. Gwerthwyd un arall yn yr un arwerthiant; does neb yn gwybod ble mae e nawr. Yn olaf, os mai ffugbeth yw W150 mae’n un rhyfedd o dda oherwydd roedd y ffugiwr yn gwybod bod yn rhaid i broffil yr eitem fod ar ffurf ysgithr. Os mai copi yw e, mae’n gopi o enghraifft sydd heb ei chloddio. Ni chafodd yr enghraifft gyntaf i gael ei chloddio ei chyhoeddi tan 2004 (Hendrickx ac Eyckerman 2011; 510).

Darllen Pellach 

Baumgartel, E.J., 1960. The Cultures Of Predynastic Egypt. Cyf 2. Rhydychen. 60-65, Plate IV. Llundain.

de Cenival J.L. 1973. L’Égypte avant les pyramides: 4e millénaire. Exposition Grand Palais, 29 mai-3 sept. 1973. Paris.

Griffiths, K-B, 1975. ‘A Prehistoric Stone Figure From Egypt’ yn Anati, E. (ed.) Actes du Symposium International sur les Religions de la Préhistoire, Valcamonica, 18th-23rd Septembre, Capo di Ponte. Capo di Ponte, 313-316.

Hendrickx, S. a Eyckerman, M. 2011: ‘Tusks and Tags’, in: R.F. Friedman and P.N. Fiske (eds.), Egypt at its Origins 3, Orientalia Lovaniensia Analecta 205, Leuven, 497-570.

Payne, J.C. 1993. Catalogue of the Predynastic Egyptian Collection in the Ashmolean Museum. Rhydychen, 236-243. 

Petrie, W.M.F., 1920. Prehistoric Egypt. Llundain. 

Phillips, T., 1996 (ed.) Africa–The Art of a Continent. Munich ac Efrog Newydd.

Ucko, P.J., 1968. Anthropomorphic Figurines of Predynastic Egypt and Neolithic Crete with Comparative Material from the Prehistoric Near East and Mainland Greece. Llundain. 

Vandier, J., 1952. Manuel d’Archéologie Égyptienne, I: Les Épôques de Formation Les Trois Premières Dynasties. Paris. 415-435.

 

 

css.php