• English
  • Cymraeg

W1400

W1400

Llosgwr arogldarth carreg ddu wedi’i addurno â phedwar cartouche. 11.5cm o uchder.

Mae tebygolrwydd siâp y gwrthrych hwn i enghraifft o’r 12fed frenhinlin (gweler Griffiths 2001) yn awgrymu mai llosgwr arogldarth ydyw.

Yn ystod cyfnod cynnar chwyldro Amarna, roedd Akhenaten ar delerau da â chwlt Amun-Re a’i offeiriaid. Mae Akhenaten yn cyfeirio ato ef ei hun fel: “Re-Harakhty sy’n byw ac yn llawenhau yn y gorwel, yn ei enw Shu, sef Aten”. Gallwch weld yr enw hwn yn y ddau gartouche olaf. Mae’n bosib bod y ddau gartouche cyntaf yn dangos enw gwreiddiol Akhenaten, sef Amenhotep IV, a’i newidiodd i Akhenaten (“y sawl sy’n fuddiol i Aten”) yn chweched flwyddyn ei deyrnasiad, neu efallai eu bod yn ailadrodd yr enw Re-Harakhty.

Roedd arogldarth yn bwysig iawn yn yr Hen Aifft. Daeth Hatshepsut yn ôl â choed arogldarth i’r Aifft pan aeth i Punt (rhywle yn Ne Affrica) a mewnforiwyd eitemau persawrus eraill o ardal Môr y Canoldir. Roedd arogldarth yn cael ei ddefnyddio mewn defodau teml ac fel persawr i’w roi ar gyrff, mewn bywyd a marwolaeth, ac roedd yn cael ei ddefnyddio i buro’r cartref ac at ddibenion meddygol. Ymddengys fod resin pistacia yn un o gynhwysion cyffredin arogldarth. Fodd bynnag, gwyddwn hefyd mai kyphia oedd enw un o’r arogldarthau mwyaf cyffredin a fyddai’n cael eu llosgi, ond nid ydym yn ymwybodol o’r holl sylweddau a fyddai’n cael eu defnyddio. Er bod gennym ryseitiau, nid yw rhai o’r geiriau ynddynt wedi cael eu cyfieithu.

Roedd yr Eifftiaid yn defnyddio’r termau snTr ac antyw i gyfeirio at arogldarth, a chofnodir bod y ddau yn tarddu o Punt. Tybiwyd yn gyffredinol mai thus a myrr, yn y drefn honno, oedd y ddau gynhwysyn hyn. Fodd bynnag, mae dadansoddiad resinau o’r Deyrnas Newydd gan Serpico a White (2000) wedi awgrymu mai pistacia, yn ôl pob tebyg, oedd prif gynhwysyn snTr er y gallent fod wedi ychwanegu cynhwysion eraill. Fodd bynnag, mae thus wedi cael ei ddarganfod yn Qasr Ibrîm (OC400-500;) Evershed at al. 1997). 

Cyhoeddwyd hyn yn wreiddiol gydag W154 gan Kate Bosse-Griffiths in 1992 ‘Incense for the Aten’ yn Luft, U (gol.)The Intellectual Heritage of Egypt: Studies Presented to László Kákosy by friends and colleagues on the occasion of his 60th Birthday, 77-79. Ailgyhoeddwyd y papur nes ymlaen yn JG Griffiths, gol., 2001 Amarna Studies.

Gwrthrychau eraill o Amarna

Gwrthrychau eraill sy’n gysylltiedig ag arogldarth

 

 

 

 

css.php