• English
  • Cymraeg

W1366Coflech o’r Cyfnod Canol Cyntaf c.59.4cm o uchder, 29.6cm o led a 6.8cm o ddyfnder. Dengys y goflech hon ddyn ar y tu blaen yn dal bwa yn ei law chwith a saethau yn ei law dde. Mae’n gwisgo coler lydan. Y tu ôl iddo saif dynes. Mae’r ddau’n edrych i’r dde.

Prynwyd yr eitem hon gan Wellcome o gasgliad Rustafjaell ym 1906. Cafodd rhan uchaf y goflech, ar yr ochr chwith, ei llenwi ar ôl iddi gael ei gwerthu yn 1906.

Gelwir coflechau o’r fath a chanddynt fwawyr yn ‘goflechau milwyr’. Mae gan y Ganolfan Eifftaidd ‘goflech milwr’ arall yn cael ei harddangos (EC62). Efallai fod cynifer o goflechau milwyr i’w cael oherwydd y rhyfel cartref yn y cyfnod hwn. Câi bwawyr o Nubia eu cyflogi’n aml yn yr Aifft fel milwyr. Awgryma Vandier (1954) mai dim ond milwyr a laddwyd mewn brwydr a gâi goflechau, ac efallai fod hyn hefyd yn esbonio pam yr ymddengys eu bod wedi’u creu ar frys.

Darllen Pellach:

Vandier, J. 1954, Manuel d’archéologie égyptienne, II, Paris: A. et J. Picard et Cie, 468-469.

Fischer, H.G. 1964, Inscriptions from the Coptite Nome, Rome: Biblical Institute Press, 50-102.

 

Other stelae in the Egypt Centre

Other items associated with warfare in the Egypt Centre

css.php