• English
  • Cymraeg

 


W1327

Darn (braslun ar botyn neu ddernyn carreg) yn dangos buwch Hathor a gorymdaith o dri pherson.

Mae’r eitem hon yn 16cm o uchder ac mae’n cynnwys braslun peintiedig ar galchfaen. Yn y rhan uchaf gellir gweld buwch gyda disg haul rhwng ei chyrn. Mae tri neu bedwar person i’w gweld dan y fuwch. Awgryma hyn eu bod, efallai, yn ei chario.

Mae’r rhif ‘21’ wedi’i ysgrifennu mewn inc tua’r gwaelod.

Dengys disg yr haul ei bod yn dduwies – Hathor, yn ôl pob tebyg. Erbyn hyn (1997) ceir ysgrifen annarllenadwy mewn pensel/creon glas ar y cefn, er bod catalog cynnar yn nodi mai ‘Deir el-Medina’ yw’r ysgrifen.

Gwnaed brasluniau o’r fath gan bentrefwyr Deir el-Medina yng Ngorllewin Thebae fel ymarferion ar gyfer eu gwaith swyddogol fel drafftsmyn ym meddrodau teulu brenhinol y Deyrnas Newydd gerllaw, neu i gofnodi digwyddiadau goddefol yn eu bywydau bob dydd. Roedd gan y pentrefwyr deml fach eu hunain lle y câi Hathor ei mawrygu, lle y byddent hwy eu hunain yn perfformio defodau dyddiol a thymhorol a oedd, yn y temlau pwysicach, yn gyfrifoldeb offeiriaid proffesiynol.

Mae gan Hathor fwy o demlau nag unrhyw dduwies arall yn yr hen Aifft. Sonnir amdani mewn nifer o swynion o Lyfr y Meirw, yn cynnwys Swyn 186: ‘Hathor a addolir, boneddiges y Ddwy wlad, meistres diffeithdir y gorllewin, fe ddywed Osiris: Henffych i ti, yr ardderchog un, boneddiges yr awyr, meistres yr holl dduwiau, y bydd Re-Harakhte-Atum yn ymuno â thi yn ei leoliad gogoneddus….’.

 

 

css.php