• English
  • Cymraeg

 

 

W1326

W1326

Stela yn dangos menyw gyda sistrwm mewn addoliad gerbron Thoth sydd ar ffurf babŵn.

Mae’r eitem – bloc calchfaen wedi’i lyfnhau ar un ochr a’i orchuddio â haen denau o gypswm – yn mesur 12×4.5×19.3cm. Mae’r llun wedi’i dynnu â phaent coch. Ar y dde mae menyw’n sefyll gyda’u dwy law i fyny ac yn dal sistrwm (math o ratl) yn ei llaw dde. Yn ôl y gred, roedd sistra’n heddychu’r duwiau. Mae un yn cael ei arddangos yn y gist gyfagos. Ar y chwith mae Thoth yn eistedd gyda lleuad gilgant ar ei ben. Rhyngddynt mae bwrdd offrymu ac arno flodyn lotws sy’n agor o flaen wyneb Thoth.

Mae ffurf y stela’n awgrymu ei bod o Deir el-Medina’r Deyrnas Newydd. Roedd Thoth yn dduw pwysig yn y safle hwnnw. Ef oedd duw doethineb ac ysgrifennu, gyda chysylltiad â’r lleuad. Mae Deir el-Medina ar lan orllewinol yr afon Nîl gyferbyn â Karnak ac yno roedd y gweithwyr a adeiladodd feddrodau Dyffryn y Brenhinoedd yn byw.

Prynwyd gan Wellcome mewn arwerthiant ar 9–10fed Rhagfyr 1907 fel rhan o gasgliad Robert de Rustafjaell. Lot 71 oedd hwn, mwy na thebyg.

Cyhoeddwyd hwn gan Kate Bosse Griffiths (2001).

 

Bosse-Griffiths, K. 2001. Baboon and Maid in Egypt and Israel. In Griffiths, J.G. Amarna Studies and Other Selected Papers. Fribourg: University Press Fribourg, 165-171.

More information on sistra

A baboon amulet

css.php