• English
  • Cymraeg

 

W1161

Bachgen wedi’i gerfio o garreg gydag aderyn, wyneb peintiedig. 21.8cm o uchder. Y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig Diweddar. Am bortreadau eraill o fechgyn gydag adar gweler Ridgway 2006.

Mae Teeter (2010, 144) yn dweud mai symbol o ddiniweidrwydd oedd adar tegan ar stelae Rhufeinig, ac mae Török (1993, 53) yn dweud fod adar tegan clai yn boblogaidd gan blant ledled yr hen fyd. Mae gennym, o bosib, enghraifft yn y Ganolfan (EC25).

Darllen pellach:

Teeter, E. 2010. Baked Clay Figurines and Votive Beds from Medinet Habu. Chigaco: The Oriental Institute of the University of Chicago.

Török, L. 1993. Coptic Antiquities.Volume 1. Stone Sculpture, Bronze Objects, Ceramic Coffin Lids and Vessels, Terracotta Statuettes, Bone, Wood and Glass Artefacts. Monumenta antiquitatis extra fines Hungariae reperta 2. Rome: “L’Erma” di Bretschneider.

Ridgway, B.S. 2006. The boy strangling the goose. Genre figure or mythological symbol. The American Journal of Archaeology 110/4 p 643-648.

 

 

css.php