• English
  • Cymraeg

 

W1159

Darganfuwyd y pen neidr hwn a wnaed o garreg yn Amarna ac fe’i rhoddwyd i ni gan yr Amgueddfa Brydeinig ym 1978.

Mae wedi’i wneud o garreg lliw coch sydd wedi’i phaentio’n las ac mae’n bosib iddo gael ei osod ar gyfreslun pensaernïol o garreg, pren neu friciau llaid gwrthgyferbyniol) gweler Aldred 1973, rhif. 155; Freed et al. 1999, 226).

Ar waelod y gwrthrych, gellir darllen: TA. 31.32. Temple Pylon 1 North 452’. Yn Pendlebury (1951, 98), mae sarfflun wedi’i restru fel un sy’n tarddu o Beilon 1 Porth Gogledd Teml Fach Ateb (a elwir yn Hat Ateb yn Pendlebury 1951, h.y. Hwt Aten neu Blasdy’r Aten) er mai ‘453’ yw rhif hwn. Mae’r sarfflun yn y cyhoeddiad yr un maint â’n un ni ac aeth i Wellcome. Cymerir yn ganiataol, o ganlyniad, mai dyma’r un eitem ag W1159. Mae Teml Fach Ateb wedi’i lleoli’n agos i Dŷ’r Brenin a’r Plasdy Brenhinol ac mae’n cynnwys un o’r adeileddau cynharaf a godwyd yn Amarna, sef allor enfawr o friciau llaid.

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â nadroedd yn y Ganolfan Eifftaidd

 

Darllen Pellach

Aldred, C. 1973. Akhenaten and Nefertiti. New York: Viking Studio.

Freed, R.E., Markowitz and Y.J. D’Auria, S.H. 1999. Pharaohs of the Sun. Akhenaten, Nefertiti, Tutankhamun. London: Thames and Hudson.

Pendlebury, J.D.S. 1951. The City Of Akhenaten III. The Central City and Official Quarters. Text. London: Egypt Exploration Society. 

css.php