• English
  • Cymraeg

 

w1150

Befel modrwy faience neu wydr wedi torri o Arana yn dangos gwraig gerddorol gyda mwnci. Mae’r ffigwr wedi’i droi i ddangos y bogail a chrymedd y bola sydd yn unol â chelfyddyd y cyfnod. Fe’i cafwyd mewn tŷ yn Ninas y Gogledd (Frankfort and Pendelbury 1933, 94). Gwyddom am 2 chwaraewr liwt arall gyda mwnci o Amarna (Stevens 2006, 46).

Mae befelau modrwy i’w cael ledled Amarna, mewn ardaloedd cyfoethog a thlawd fel ei gilydd.

Mae thema chwaraewr liwt a mwnci hefyd i’w gweld ar ddysgl o Leiden (Friedman 1998, 212).

Gweler Bosse-Griffiths 1980.

 

Darllen pellach:

Bosse-Griffiths, K., 1980 ‘Journal of Egyptian Archaeology’ 66. pp 70-82 (Ailargraffwyd yn ‘Amarna Studies’ a olygwyd gan JG Griffiths 2001).

Frankfort, H. a Pendlebury J.D.S. 1933, The City of Akhenaten Part II, The north suburb and the desert alters: the excavations at tell el-Amarna during the seasons 1926-1932. Llundain: Egypt Exploration Society.

Friedman, F.D. gol. 1998. Gifts of the Nile Ancient Egyptian Faience. Llundain: Thames and Hudson.

Stevens, A., 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. BAR International Series 1587. Rhydychen: Archeopress.

 

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth yn y Ganolfan Eifftaidd 

 

css.php