• English
  • Cymraeg

 

Mae’r darn hwn o arch yn dangos yr unigolyn marw (yn y canol) gyda chôn o arogldarth ar ei ben. Dywed rhai pobl y byddai pobl yn gwisgo côn cŵyr peraroglus go iawn, er bod eraill yn credu bod y côn yn symboleiddio’r persawr. Mae’r unigolyn marw yma ar ffurf dyn er, fel dywed yr arysgrif, mai menyw ydoedd. Yn y cyfnod hwn, roedd ffigyrau’n amrywio bob yn ail rhwng gwryw a benyw gan y cawsant eu creu mewn niferoedd mawr fel eirch neillryw.

Mae’r unigolyn marw yn sefyll o flaen bwrdd offrwm. Ar ochr arall y bwrdd offrwm ceir duw y meirwon, Osiris, ar ei eistedd ac yn dal bachyn a ffust. Roedd y bachyn heka yn symbol o’r Aifft Uchaf, ac roedd y ffust nekhekh yn symbol o’r Aifft Isaf. Roedd y ddau yn symbolau o frenhindod. Sylwer bod Osiris hefyd yn gwisgo rhwymyn mymi.

Byddai golygfeydd eraill ar yr arch hon yn fwy na thebyg wedi dangos yr unigolyn marw ar ei daith i’r bywyd tragwyddol. Felly, byddai’r golygfeydd wedi bod yn debyg, er nid yn union yr un peth, i arch gyflawn cerddores Amun-Re yn yr oriel hon.

Mae’r cefndir melyn a phrysurdeb yr arch yn dyddio’n ôl i’r Trydydd Cyfnod Canolog (1069-747BC) ac yn fwy na thebyg, i’r 21ain Frenhiniaeth (1069-945BC). Roedd pwysigion nad oeddent yn rhan o’r teulu brenhinol fel arfer yn cael eu claddu mewn dwy arch anthropoid gyda bwrdd mymi.

Prin iawn yw’r eirch preifat o’r math hwn sydd wedi cael eu darganfod y tu allan i Thebes felly mae’n bosib bod yr arch hon yn dod o Thebes. Yn ogystal, roedd y cerddor a oedd yn berchen ar yr arch hon yn addoli’r duw Amun-Re, yr oedd ei deml yn Thebes.

Cafodd y meirwon eu hadnabod gan y duw gwrywaidd Osiris a oedd yn frenin y meirwon. Mae hyn yn berthnasol boed yr unigolyn marw yn ddyn neu’n fenyw. O ganlyniad, mae’r testun yn dechrau gyda’r teitl ‘Yr Osiris’.

Mae nifer fawr iawn o fenywod pwysig yr Aifft yn gysylltiedig â themlau fel cerddorion offeiriadesau. Roedd Shemayet (cerddores) yn deitl cyffredin i fenywod pwysig y gymdeithas. Ac eithrio ‘Boneddiges y tŷ’, dyma’r teitl mwyaf cyffredin i fenywod mewn beddau yn Thebes. Yn Thebes, roedd y teitl fel arfer yn ‘Gerddor Amun’, ac mewn mannau eraill, arferid dewis duwdod lleol. Yn y Ganolfan Eifftaidd, mae sawl eitem yn cynnwys y teitl hwn. Gallwch chi ei weld ar sawl gwrthrych. Yn aml, caiff ei ysgrifennu fel hyn:

Mae gan Amun y teitl nsw nTrw ‘Brenin y Duwiau’. Rhoddwyd y teitl hwn i Amun am y tro cyntaf dan deyrnasiad Thutmose III. Wrth i nerth Thebes ddatblygu, cynyddodd pwysigrwydd Amun hefyd. O tua 1,390CC, cymerodd Amun rai o swyddogaethau duwiau eraill, megis Re o Heliopolis a elwid yn Amun-Re, Brenin y Duwiau (Ìmn–Rc–nsw–nTrw), , sef y teitl ar y darn hwn

Eitemau eraill o’r Trydydd Cyfnod Canol yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php