• English
  • Cymraeg

W1043: Coflech

W1043

Mesuriadau’r goflech bren hon yw 38.4 x 26.3 x 3.4cm. Fe’i prynwyd gan Henry Wellcome mewn arwerthiant ar 27.7.1931. Mae’r rhan uchaf yn dangos disg adeiniog yr haul, a ddangosir yma fel Horus o Edfu. Islaw, gwelir yr arwydd am awyr ac yna, yn y canol, cynrychiolir yr ymadawedig mewn gwisg offeiriad, ei freichiau wedi’u codi i addoli Osiris a Re. Dangosir Re â phen hebog. Nid oes unrhyw luniau ar yr ochr arall.[i]

 

 

Mae’r pedair llinell o destun yn dweud:

Llinell 1:

Htp-di-nsw n Hr Axty nTr aA nb pt sAb Swt pr(w) m Axt
Offrwm, y mae’r brenin yn ei roi i Harakhty, y duw mawr, arglwydd yr awyr, amryliw ei blu, sy’n ymddangos o’r gorwel

 

Llinell 2:

di.f prt-xrw t Hnqt kAw Apdw irp irTt snTr
y dylai roi offrwm addunedol o fara, cig eidion, ffowlyn, gwin, llaeth, arogldarth

 

Llinell 3:

mrHt mnxt Htpw DfAw n kAw Wsir PA-men-s mAa-xrw
eli, dillad ac offrymau darpariaeth i kas Osiris Pa-menes, gwir ei lais

 

Llinell 4:

sA (Hr.f-tm?) mAa-xrw ms (w) nbt-pr st-wrt, mAa(t)-xrw
mab (Herefernit?) a anwyd i feistres y tŷ, Sat-weret, gwir ei llais

 

[i]Gweler: Effland, ‘Materialien zur Archäologie und Geschichte des Raumes von Edfu’, t. 231.

 

Andreas Effland, ‘Materialien zur Archäologie und Geschichte des Raumes von Edfu’ (traethawd ymchwil PhD heb ei gyhoeddi, Prifysgol Hamburg, Hamburg, 2004),

 

 

Other stelae in the Egypt Centre

css.php