• English
  • Cymraeg

W1041

W1041

Mae’r goflech bren angladdol hon wedi’i gorchuddio â phlastr â fformiwla offrwm wedi’i phaentio arno. Mae’n 59cm o uchder, ac roedd yn rhan o Gasgliad MacGregor a brynwyd gan Henry Wellcome mewn arwerthiant ar 26.6.1922. Rhoddwyd rhif derbyn 13713 y Casgliad Wellcome iddi.[i]

 

Mae’n galw ar dduwiau amrywiol, yn yr achos hwn, Horus o Edfu, Osiris, Isis, Hathor ac Anubis, i sicrhau bod yr ymadawedig yn derbyn bara, cwrw, cig eidion, gwyddau, arogldarth a’r ‘holl bethau melys, pur a da sy’n rhoi modd i dduw fyw’. Roedd coflechau o’r math yn eiddo i bobl gyfoethog yn unig. Crëwyd yr enghraifft hon ar gyfer Pashrinyemhopteg, ysgrifennydd y fyddin a goruchwyliwr offeiriaid yn nheml Horus yn Edfu. Mae’n debygol ei bod yn dyddio o’r ganrif gyntaf OC.[ii]

 

Blaen: Mae’r rhan uchaf yn dangos disg adeiniog yr haul, a gysylltir yma â’r duw hebog, Horus o Edfu. O’r disg, mae dwy neidr yn hongian, yn cynrychioli duwiau Nekhbet a Wadjet, o’r Aifft Uchaf a’r Aifft Isaf, yn y drefn honno. Rhyngddynt, gwelir yr arysgrif BHdt, ‘Y Behdetite’ (Horus o Edfu). Mae chwedl yn adrodd sut cynllwyniodd y Nubiaid yn erbyn Re. Hedfanodd Horus o Edfu i’r awyr ar ffurf disg adeiniog yr haul, a disgleiriodd mor ffyrnig y cafodd y gwrthryfelwyr eu dallu a lladdasant ei gilydd yn eu panig. Yn y siâp hwn, aeth Horus ar drywydd Seth a thorrodd ei ben.[iii]

Islaw, mae’r ymadawedig yn gorwedd ar wely llewod, ac mae’r duw â phen ci/siacal, Anubis, neu offeiriad mygydog, yn perfformio defodau ailfywiogi. Cynorthwyir Anubis gan dduwiesau Isis a Nephthys a chan Bedwar Mab Horus, y mae eu henwau wedi’u hysgrifennu uwch eu pennau. Trafodir y rhai olaf yn y bennod nesaf. Ar y dde, mae’r ymadawedig, wedi’i wisgo fel offeiriad ac wedi’i ailfywiogi, yn codi ei ddwylo i addoli.

Mae’r arysgrif yn dechrau â fformiwla yr offrwm, gan annerch Horus o Edfu, ac mae’n rhestru teitlau offeiriadol niferus Pashrinyemhotep. Mae’r rhain yn cynnwys offeiriad Horus y Plentyn ac Amun, prif offeiriad diod-offrymau Sekhmet, goruchwyliwr Selket, goruchwyliwr offeiriaid Horus o Edfu, ayb.

Yn fwy penodol, dywed fformiwla yr offrwm:

 

Llinell 1:

 

….Hr BHdt nTr aA nb pt sAb Swt pr m Axt Hr – Axty hnty st wrt Wsir xnty aImntyw nb AbDw
Horus o Edfu, y duw mawr, arglwydd yr awyr, amryliw ei blu, sy’n ymddangos o’r gorwel, Harakhty, ef sydd o flaen gorsedd fawr Osiris, cyntaf o’r Gorllewinwyr, arglwydd Abydos.

 

Llinell 2:

nTr aA nb dDw Hr Wp-Sat – tAwy Wsir nTr aA n BHdt aIwn ŵr n BHdt Ast wrt Hnwt n BHdt snt Hry aib AbDw
y duw mawr, arglwydd Busiris, Horus goleuwr y ddwy wlad, Osiris duw mawr Edfu, piler mawr Edfu, Isis y mawreddog, meistres Edfu, y dewin sy’n byw yn Abydos.

 

Llinell 3:

Hwt-Hr Hnwt aImntyw aInpw nb mAaty m wsxt mAatyw aInpw imy-wt nb tA Dsr aInpw xnty sH-nTr
Hathor, meistres y Gorllewinwyr, Anubis, Arglwydd y ddau wirionedd yn Neuadd y gwir, Anubis, ef sydd yn ei Wat, arglwydd y tir cysegredig, Anubis blaenaf y bwth duwiol.

 

Llinell 4:

di.sn prt xrw t Hnqt kAw Apdw snTr Hr sDt ht nb nfr wab bnr anx(w) nTr aim.sn qrs nfr
boed iddynt roi offrymau addunedol o fara, cwrw, cig eidion, gwyddau, arogldarth mewn fflam, a’r holl bethau da, pur a melys sy’n rhoi modd i dduw fyw, claddedigaeth swmpus

 

Llinell 5:

iwaw.f mnw Hr nst.f kA n Wsir Hm Hr sHtp Hm.s aHA(?) nb mAa-xrw Hm nsw bity smsw hAyt n Hr BHdty nb pt
ei etifeddion yn parhau yn ei sedd, ar gyfer ka yr Osiris, y SHtp Hm.s offeiriad, ymladdwr arglwydd y gwir, gwas Brenin yr Aifft Uchaf a’r Aifft Isaf, hynaf Porth Horus o Edfu, arglwydd yr awyr

 

Llinell 6:

wAH xt nTr n BHdt sS mSa sS hwt-nTr Hm-nTr snw Hr-pA-Xrd Hm-nTr Imn n Sna Hry wabw sxmt imy-r srqt wdpw Hry tp (?)
ef sy’n aberthu i dduwiau Edfu, ysgrifennydd y fyddin, ail ysgrifennydd y deml, offeiriad Horus y Plentyn, y duw mawr ac Amun y stordy, prif offeiriad-wab Sekhmet, goruchwyliwr Selket, prif fwtler.

 

Llinell 7:

sS mDAt nTr (iry?) Hat imy-r Hmt-nTr n Hr BHdt nTr aA nb pt pA-Sri-(n)y-m-Htp mAa-xrw Sr Wsir
ysgrifennydd y llyfr duwiol, ceidwad pen blaen y llong, goruchwyliwr offeiriaid Horus o Edfu, y duw mawr, arglwydd yr awyr, Pashrinyemhotep, gwir ei lais, plentyn Osiris.

Llinell 8:

sA n Hm-nTr A n Hr BHdty Hr-sA-Ast mAa-xrw ir(w) n nbt pr Hry nst.s TA-Ast mAa-xrw mn sp-sn wAH sp-sp nq Dt
Mab trydydd offeiriad Horus o Edfu, Horus mab Isis, gwir ei lais, ganwyd i feistres y tŷ, hi sydd yn ei lle, canwr y sistrwm, Ta-Isis, gwir ei lais, boed iddo barhau, boed iddo barhau, boed iddo oroesi, heb ddinistr am byth.

Nid oedd y prif offeiriad-wab, neu’r offeiriad pur, o radd uchel o angenrheidrwydd.[iv]

Mae’r geiriau ‘gwir ei lais’ yn awgrymu bod yr ymadawedig wedi cael ei farnu’n llwyddiannus.

 

Mae’r rhan isaf yn dangos Osiris, wedi’i ymgorffori mewn piler djed sy’n sefyll rhwng dau ffigwr Anubis ar ffurf siacaliaid yn eistedd ar allorau. Yn ystod y Deyrnas Newydd, daeth y piler djed i gynrychioli asgwrn cefn Osiris a sefydlogrwydd. Dymunai’r ymadawedig gael ei gysylltu â Horus a ailfywiogwyd drwy gael ei fymïo gan Anubis.

 

Cefn: Safai’r goflech hon ar ei phen ei hun, felly addurnwyd y cefn. Mae’r tu cefn yn dangos Isis (ar y dde) a Nephthys (ar y chwith) yn eu cwrcwd, eu dwylo wedi’u codi’n addoli Osiris (canol). Islaw, gwelir piler djed rhwng dau lun o Wregys Isis. Efallai fod Gwregys Isis yn cynrychioli’r clwt byddai menywod yn ei wisgo yn ystod eu misglwyf ac efallai ei fod yn amwled amddiffynnol.

[i]Sotheby, Wilkinson and Hodge Catalogue of the MacGregor Collection of Egyptian Antiquities 26th June 1922 and the four following days and 3rd July 1922 and three following days. Mae Lot 1588 yn disgrifio’r goflech hon ond nid yw’n nodi ei tharddiad.

[ii]Ymchwiliwyd i’r darn ac fe’i cyfieithwyd gan Effland a’i priodolodd i’r ganrif gyntaf: Andreas Effland, ‘Materialien zur Archäologie und Geschichte des Raumes von Edfu’ (traethawd ymchwil PhD heb ei gyhoeddi, Prifysgol Hamburg, Hamburg, 2004), tt. 227–30. Cyfeirir at dad perchennog W1041 yng nghoflech CG2049 yn Amgueddfa Cairo: Ahmed Bey Kamal, Catalogue Général des Antiquités Égyptiennes du Musée du Caire No. 22001-22238. Stèles Ptolémaiques et Romaines (Cairo, 1905).

[iii]Randy Shonkwiler, ‘The Behdetite: A Study of Horus the Behdedite from the Old Kingdom to the conquest of Alexander’, (traethawd ymchwil PhD heb ei gyhoeddi, Chicago: Prifysgol Chicago, 2014), yn enwedig tt. 85, 125–6, 481–2, 494.

[iv]Ben Haring, Divine Households: Administrative and Economic Aspects of the New Kingdom Royal Memorial Temples in Western Thebes. Egyptologische Uitgaven 13 (Leiden, 1997), t. 222; Katherine Eaton Ancient Egyptian Temple Ritual. Performance, Pattern and Practice (Efrog Newydd a Llundain, 2013), t. 29.

 Cyfeiriadau

 

Munro, Peter, 1973 Die Spätägyptischen Totenstelen. J.J. Augustin 

Watterson, Barbara, 1998. The House of Horus at Edfu.Temp

Other stelae in the Egypt Centre

 

 

 

css.php