• English
  • Cymraeg

Hathor

Roedd Hathor yn dduwies Eifftaidd bwysig iawn. Roedd ganddi fwy o ganolfannau defod yn yr Aifft nag unrhyw dduwies arall. Ym Memphis cafodd ei galw’n ‘wraig y sycamorwydden’ ond roedd ei phrif ganolfan ddefod yn  Dendera. Tan i’w rôl gael ei chymryd gan rôl Isis, cafodd ei hystyried yn fam ddwyfol pob brenin a oedd yn teyrnasu ac fel mam Horws, duw’r haul. (Caiff Isis hefyd yn aml ei dangos yn gwisgo penwisg Hathor).

Byddai hi’n cael ei gweld ar dair prif ffurf: fel gwraig â chlustiau buwch, fel buwch, ac fel gwraig â phenwisg, cyrn a disg haul. Hi yw’r unig dduwies sy’n cael ei dangos ag wyneb llawn ar gerfwedd.  Ar ei ffurf ddialgar roedd hi hefyd i’w gweld fel llewes ac felly byddai hi’n cael ei hystyried yn un o lygaid Re, duw’r haul.  Anfonodd Re Hathor i ddinistrio dynolryw i ddial am ddiffyg parch.  Yn y stori caiff Hathor ei denu i ffwrdd o ddynolryw gan lyn o gwrw lliw gwaed.  Roedd gwyliau i anrhydeddu Hathor yn cynnwys diod.  Roedd hi hefyd yn cael ei galw’n ‘wraig y nen’. Cafodd Hathor ei hystyried yn wraig Re ac yn wraig Horws o Edffw.  Ystyr ei henw yw ‘Tŷ Horws’.

Roedd hi’n cael ei chysylltu â rhywioldeb, llawenydd a cherddoriaeth. I ddangos ei hagweddau synhwyrus mae hi’n cael ei dangos fel gwraig brydferth.  Caiff ei hagweddau mamol sylw pan gaiff ei dangos fel buwch yn gofalu am lo.  Caiff ei chysylltiad â cherddoriaeth ei gryfhau gan y sistrwm.  Weithiau byddai sistrwm yn cael i siapio fel pen Hathor.  Mae gennym sistrwm yn Nhŷ’r Meirw yn y cwpwrdd o’r enw Duwiau a Brenhinoedd. Ar un o’r darnau arch melyn gallwch chi weld perchennog yr arch yn ysgwyd sistrwm i dawelu duw. Roedd Hathor hefyd yn cael ei dangos ar bennau mwclis, a elwir yn wrthbwys menat.

Roedd gan Hathor gysylltiadau angladdol fel ‘gwraig y gorllewin’ a chafodd ei chysylltu â genedigaeth ac aileni. Roedd y person a oedd yn marw am fod ‘yn nilyniant Hathor’ a oedd yn derbyn ac yn amddiffyn yr haul a oedd yn machlud.  Fel ‘gwraig Byblos’ cafodd ei chysylltu â gwledydd tramor ac yn ei rôl fel y ‘wraig lasfaen’ cafodd teml ei hadeiladu iddi yn Sinai.

 

Some of the items in the Egypt Centre related to Hathor are:

Fasys Hathor

W1327 Ostracon showing Hathor

W283 Segmented faience balls

W1982 Scene from a coffin showing Hathor emerging from a mountain

Hathor headed columns at the temple at Philae

css.php