• English
  • Cymraeg

Fake Swimming Girls

Mae’n ymddangos fod ffigyrau o ferched ifanc noeth neu hanner-noeth yn nofio mewn gwallt gosod trwm ac yn dal llwyau yn gysylltiedig â ffrwythlondeb. Maen nhw i’w cael mewn nifer o gasgliadau Eifftolegol. Ymddangosodd ffigyrau’r Ganolfan Eifftaidd, 2 ohonynt yn cael eu harddangos yn Arddangosfa Wyneb yr Aifft a gynhaliwyd ym 1997 yn Oriel Celfyddyd Gain Glyn Vivian yn Abertawe (gweler rhifau catalog 36 a 37). Mae’n bosib nad ydynt yn arteffactau hynafol dilys.

 

Mae nifer o resymau pam ein bod yn amau eu dilysrwydd:

  • Nid yw ffurf a chyfartaledd W764 yn gydnaws â chelfyddyd hynafol yr Aifft.
  • Mae W765 a W766 wedi’u gwneud o bren ysgafn ac wedi’u gorchuddio’n rhannol â phlastr a phaent. Nid dyna sy’n wir am ffigyrau eraill o ferched yn nofio, sy’n tueddu i fod wedi’u gwneud o bren llinog cain a heb eu peintio.
  • Nid oes i’n ffigyrau ni yr un cymhlethdod patrwm ag sydd i’r rhai eraill y gwyddom amdanynt.
  • Yn olaf, mae ffigyrau eraill yn dal llestr, tra nad yw’n rhai ni.Mae ffigyrau y gellir profi eu tarddiad yn aml yn cael eu portreadu’n dal dysgl gron ar gyfer eli. Maent yn galw ar y dduwies Nut am mai hi a ddygodd allan yr haul-dduw Re o’r dyfroedd cynoesol ar wawrddydd y creu. Disg wastad, mae’n debyg, mae’n rhai ni yn ei dal.Gallai ffigyrau o’r fath fod wedi’u gwneud o bren hynafol. Mae eu hansawdd yn awgrymu iddynt fod yn hawdd i’w cynhyrchu a’r ffaith eu bod yn fach eu maint o bosib yn apelio at gasglwyr. Byddent felly yn hawdd i’w ffugio ac i’w gwerthu.

 

W765

W765

W766

W766

W764

W764

Prynwyd W764 gan Syr Henry Wellcome mewn arwerthiant ym 1925. Mae wedi’i wneud o bren gwell na’r lleill ond, os yw’n arteffact dilys, mae ei gyfartaleddau’n rhai rhyfedd

A similar example can be found at: http://www.collector-antiquities.com/110/

We do however have one genuine swimming girl, though this is possibly not Egyptian.

For other fakes click here

Darllen Pellach

Delange, E. 1993. Rites et Beauté. Objets de toilette égyptiens. Paris.

Freed, R. E. 1982. Egypt‘s Golden Age. The art of living in the New Kingdom. Boston, 205-207.

 

 

css.php