• English
  • Cymraeg

Mwncïod Calchfaen

ec751

Darn o garreg o gloddio ym 1930 yn Amarna, gyda’r marc ‘TA/30.31 210 T.36.60’ mewn inc. Mae T 36.60 yn ardal yn y Fwrdeistref Ogleddol a oedd yn ffatri briciau mwd ym marn Frankfort a Pendlebury (1933). Yn ôl Frankfort a Pendlebury (1933, 51), caiff 30/210 ei ddisgrifio fel ‘fragment of a limestone group of monkeys’. Mae cyflwr EC751 yn ei gwneud hi’n anodd iawn gweld mwnci neu grŵp o fwncïod. Fodd bynnag, mae’n debyg i’r grwpiau o fwncïod rydym yn gwybod amdanynt o Amarna gan fod ganddi ffurf grom, a wnaed o galchfaen ac mae olion paent arni.

Yn aml iawn, byddai mwncïod yn y Deyrnas Newydd yn cael eu portreadu gan ddefnyddio ystumiau dynol, yn dynwared ar ymddygiad dynol, gan gynnwys ymddygiad y teulu brenhinol. Gwelir hyn nid yn unig mewn modelau 3D ond hefyd mewn lluniau ar ostraca. Ar y cyfan, mae grwpiau calchfaen o Amarna’n tueddu i bortreadu 2 neu 3 mwnci wrthi’n twtio neu’n gofalu am eu mwncïod ifanc. Weithiau, dywedir i’r rhain gael eu gwneud i wneud sbort am y teulu brehinol gan fod y teulu brenhinol a’r grwpiau brenhinol ill dau yn dangos golygfeydd o yrru cerbydau rhyfela neu ymddygiad clòs megis cusanu (Hornung/Lorton 1995, 110).

 

Yn ogystal, roedd gan yr anifeiliaid hyn arwyddocâd crefyddol. Roeddent yn gysylltiedig â chroesawu’r haul ac â nerth rhywiol. Roedd gan demlau fwncïod cysegredig yn gysylltiedig â nhw ac i dduwiau penodol, megis Thoth.

Mae Stevens (2006, 106–110) yn datgan i fwy na 200 o ffigyrau o fwncïod a wnaed o garreg a chrochenwaith gael eu canfod yn Amarna.

Darllen pellach.

Frankfort, H. a Pendlebury J.D.S. 1933, The City of Akhenaten Part II, The north suburb and the desert alters: the excavations at tell el-Amarna during the seasons 1926-1932. Llundain: Cymdeithas Fforio’r Aifft.

Hornung, E. cyfieithwyd gan D. Lorton. 1995. Akhenaten and the Religion of Light. Ithica a Llundain: Gwasg Prifysgol Cornell.

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. Rhydychen: Archaeopress.

 

Eitemau eraill o Amarna yn y Ganolfan Eifftaidd

Other monkey related items in the Centre

css.php