• English
  • Cymraeg

 

EC606

Mae pwyntiau’r seren wyth pwynt yn amgáu clystyrau o ddail rhigolog, dail gwinwydden mwy na thebyg. Mae patrwm manwl ymblethedig yn y canol. Byddai medaliynau o’r fath wedi cael eu defnyddio i addurno tiwnigau yn y mileniwm cyntaf OC. Mae hwn yn debyg o ran cynllun i fedaliynau Rhufeinig Diweddar a ddarlunnir yn Pritchard, 2004. Mae hefyd yn debyg iawn i’r medaliwn yn Lewis (1969 tud 29 pl. 21), sy’n cael ei ddyddio i’r 5ed ganrif OC.

Mae Diane Lee Carolle (1986, 86) o’r farn bod patrymau ymblethedig cymhleth yn cael eu cynysgaeddu â phwerau amddiffynnol yn erbyn rheibio am eu bod yn gorfodi’r llygad i symud yn ôl a blaen dros yr arwyneb.

Motiff Bysantaidd o’r bedwaredd i’r chweched ganrif OC yw’r seren wyth pwynt (Lewis 1974, 171). Mae Erikson (1997, 139) yn datgan bod i ‘wyth’ ystyr gosmolegol o anfarwoldeb a chytgord nefolaidd a’r wythfed dydd oedd dydd atgyfodiad Crist.

Mae dail gwinwydd i’w gweld mewn celfwaith Rhufeinig a Choptaidd ac yn perthyn i’r grefydd Dionysian yn ogystal â’r grefydd Gristnogol (Erikson 1997, 101).

Cyfeiriadau 

Carroll, D.L. 1988, Looms and Textiles of the Copts: First Millennium Egyptian Textiles in the Carl Austin Rietz Collection of the California Academy of Sciences. San Francisco: California Academy of Sciences.

Erikson, M. 1997. Textiles in Egypt 200-1500 AD in Swedish Museum Collections. Gothenburg: University of Gothenburg.

Lewis, S. 1969 Early Coptic Textiles. Stanford: Prifysgol Stanford.

Lewis, S. 1974. ‘Review of ‘Coptic Textiles in the Brooklyn Museum’ gan Deborah Thompson’ Journal of Egyptian Aarchaeology, 33, 1. 169-171.

Pritchard, F. 2004. Clothing Culture. Dress in Egypt in the First Millennium AD. Clothing from Egypt in the collection of the Whitworth Art Gallery, The University of Manchester. Manceinion: Prifysgol Manceinion.

 

css.php