• English
  • Cymraeg

Dysgl grochenwaith yn neunydd marl sy’n 16.2cm o uchder. Dyma ddysgl Bes o’r Cyfnod Hwyr.

Mae’r ddysgl wedi’i haddurno’n sylweddol, ac felly dim ond llygaid Bes y gellir eu gweld. Caiff dysglau o’r fath eu canfod ym Mhalesteina yn ogystal ag yn yr Aifft. Nid ydym yn gwybod yr hyn oedd swyddogaeth y ddysgl hon. Awgrymwyd efallai yr oeddent yn cynnwys gwin neu laeth mewn gwyliau.

Gweler Kaiser 2003, 268 am wybodaeth am y fath hwn o ddysgl. Gellir gweld enghraifft debyg, er o’r Deyrnas Ganolog, a chyfeirnodau a gwybodaeth bellach yn Pudleiner 2001.

Mae’n debyg yr oedd ein dysgl ni’n rhan o Gasgliad Kennard a brynwyd gan Henry Wellcome ym 1912. Roedd Henry Martyn Kennard yn casglu henebion Eifftaidd ac yn noddi cloddfeydd Petrie, felly mae’n bosib bod y ddysgl yn deillio o un o gloddfeydd Petrie.

Llyfryddiaeth

Kaiser, R.K., 2003. Water, Milk, Beer and Wine for the Living and the Dead: Egyptian and Syrio Palestinian Bes-Vessels from the New Kingdom through the Greaco Roman period, traethawd PhD heb ei gyhoeddi, Prifysgol Califfornia.

Pudleiner, R., 2001. Hathor on the Thoth Hill = Hathor sur le Mont Thoth Mitteilungen des Deutschen Archäologischen Instituts. Abteilung Kairo,  57, 239-245.

 

 

css.php