• English
  • Cymraeg

EC537

Faience o ben Nubiaidd. Gellir adnabod y pen fel un Nubiaidd oherwydd triniaeth y llygaid a’r steil gwallt croesffurf. Mae’r darn yn 3.5cm ar ei hyd. Ymddengys ei fod yn rhan o ddarn mwy.

Mae’r steil gwallt yn gysylltiedig â menywod Nubiaidd (Bulté 1991, 94), y’u dengys yn aml ar eitemau sy’n ymwneud â’r toiled ac â genedigaeth a mamogaeth (e.e. Ashmolean AN1896-1908 E.1807 a’r Amgueddfa Brydeinig EC8506).

Mae enghreifftiau tebyg yn cynnwys ECM822 yng nghasgliad Coleg Eton (Graves 2013). Roedd sawl duwies bwysig, megis Tefnut a Sekhmet, yn gysylltiedig â Nubia yn y Cyfnod Hwyr. Cred Friedman (1998, 208) fod ffigurau o’r fath yn gysylltiedig â mamogaeth, ac efallai y’u defnyddiwyd i ddiogelu plant ifanc. Mae enghraifft gyflawn yn Amgueddfa’r Celfyddydau Cain yn Boston (1951.13, yn Friedman 1998 rhifyn 69: 109, 208 a www.mfa.org/search/collections?keyword=1984.168) yn dangos ffigur nyrsio. Mae Graves (2013) yn eu cysylltu ymhellach â Beset.

Cyfeiriadau

Bulté, J. 1991. Talismans Égyptiens d’Heureuse Maternité. Faïence bleu vert à pois foncés. Paris.  

Friedman, F.D. ed. 1989. Gifts of the Nile: Ancient Egyptian Faience. Thames and Hudson: London.  

Graves, C. 2013. Eton College Myers Collection of Egyptian Antiquities Object Highlight: ECM822, A Faience Nubian Head. Birmingham Egyptology Journal, 1. http://birminghamegyptology.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Eton-College-Myers-Collection-of-Egyptian-Antiquities-Object-Highlight-ECM822-A-Faience-Nubian-Head1.pdf (accessed 1.10.2013).

Other Nubian and Nubia related objects in the Egypt Centre

 

 

 

css.php