• English
  • Cymraeg

 

EC419

Mae gan y darn o arch hwn arysgrif o Lyfr y Meirwon 146 arni:

 

[… bHn] xftyw.f Hr Ts pwy n ndyt hrw pwy n pS aAt.

 

[…]  his enemies are [beheaded] on this sand-bank of Nedyt, on this day of the great division [battle]*.

 

Mae Pennod 146 Llyfr y Meirwon yn rhestru’r pyrth neu’r drysau y mae’n rhaid i’r ymadawedigion fynd drwyddynt ar y ffordd i’r Byd Arall. Banc tywod Nedyt oedd lle cafodd Osiris ei ladd gan Seth a’i atgyfodi gan Isis a Nephthys. Nododd cyfeiriad at y frwydr hon rhwng Osiris a Seth fod yn rhaid goresgyn grymodd drygioni er mwyn i’r ymadawedig fyw unwaith yn rhagor, fel Osiris.

 

Yn ôl pob tebyg, mae’r darn yn dyddio’n ôl i’r 24ain Frenhinlin hwyr i’r 25ain Frenhinlin gynnar. Daeth yr arfer o ysgrifennu swynganeuon o Lyfr y Meirwon ar eirch yn boblogaidd yn y 25ain Frenhinlin, gan barhau tan y Cyfnod Ptolemaidd.

 

Cafodd ei brynu gan Henry Wellcome o gasgliad MacGregor ym 1927.

*Diolch i Kenneth Griffin am roi gwybod i ni am y cyfieithiad.

Darnau eirch eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â Llyfr y Meirwon yn y Ganolfan Eifftaidd

 

css.php