• English
  • Cymraeg

EC370

EC370

Gwaith carton. Dyma ran o orchudd y droed. Yn wreiddiol byddai’r corff i gyd wedi’i orchuddio. Mae’r arysgrif yn dweud wrthym mai Shebenwepet, offeiriades Horus y Plentyn oedd y perchennog.

Mae’r olygfa dop ar y dde yn dangos Horus ar ffurf hebog. O dano dangosir adfywiad Shebenwepet ar y chwith a Horus ar y dde. Mae’r ddau ar ffurf mymi ac yn cael eu tendio gan Anubis ac offeiriad. Mae’r olygfa nesaf yn dangos Shebenwepet yn addoli’r fuwch-dduwies Hathor ar y chwith a Ptah duw’r cread ar y dde. Mae’r darn gwaelod yn dangos yr ysbrydion hebogaidd gydag Anubis ar y chwith a Horus ar y dde.

Gallwch weld Horus y Plentyn (weithiau caiff ei alw’n Harpocrates) yn eistedd yng nghôl ei fam Isis yng nghist Y Duwiau. Mae hefyd wedi’i bortreadu ar y cipws ar gist Crefydd yn y Cartref. Yn chwedlonol, mab Isis ac Osiris oedd Horus y plentyn. Cuddiodd ei fam ef oddi wrth ei ewythr Seth yn y corsydd. O’r Cyfnod Dynastig Diweddar ymlaen caiff ei bortreadu’n aml yn gorchfygu nadredd a sgorpionau.

Mae’r eitem hon yn dyddio o’r Trydydd Cyfnod Canol, 22ain Frenhinllin (945-715 CC). Yn ystod y Trydydd Cyfnod Canol roedd gwaith carton wedi disodli’r eirch nesaf i mewn yng nghladdiadau’r boneddigion.

 

Other items dating to the Third Intermediate Period in the Egypt Centre.

Other cartonnage items in the Egypt Centre

css.php