• English
  • Cymraeg

EC272

EC272

Darn pensaernïol mewn tywodfaen, capan drws mwy na thebyg. Dydyn ni ddim yn gwybod beth oedd ei bwrpas.

 

Cafodd yr eitem hon ar un adeg ei chatalogio fel capan drws i ganiatáu i’r aderyn-ba symud rhwng y beddrod a’r isfyd, ond mae’n bur annhebyg mai dyna oedd ei bwrpas.

Mae disg haul gyda sarffluniau i’w gweld ar dop y capan drws. Horus, ar ffurf hebog, sydd yn union uwchben y twll. Mae’n gwisgo’r goron ddwbl. I’r chwith ohono mae disg haul adeiniog. Mwy na thebyg mai darlunio Horus o Edfu (Horus Behdetite) mae’r disg haul adeiniog, ac felly hefyd y ddau sarfflun yn y canol uwchben. Caiff Horus Behdetite ei bortreadu’n aml ar ddrysau fel symbol gwarcheidiol. Mae Chwedl y Disg Adeiniog yn disgrifio sut y gorchfygodd Horus Behdedite, yn ei ffurf fel disg haul, elynion Re-Horakhty.

Mae eitemau tebyg wedi’u darganfod ar safleoedd domestig e.e. yn Medinet Habu (Hölscher 1954, 60, pl. 37). Mewn rwbel y cafwyd rhai Medinet Habu, felly does wybod beth oedd eu pwrpas. Mae Hölscher wedi awgrymu mai pwrpas defodol oedd iddynt efallai. Mae’n ymddangos mai Rhufeinig yw eu dyddiad (30CC-OC300).

Darllen Pellach

Hölscher, U., 1954. The Excavation of Medinet Habu -Volume V. Post-Ramessid Remains. Chicago: University of Chicago Press.

Shokwiler, R. L. 2014. The Behdetite: A Study of Horus the Behdetite from the Old Kingdom to the Conquest of Alexander the Great. PhD thesis, Department of Near Eastern Languages and Civilizations, The University of Chicago (available online).

 

css.php