• English
  • Cymraeg

EC271 Votive model or Incense Burner?

EC271Mae’r capan ar y chwith, EC271, wedi’i wneud o faience. Mae pant fel soser ar ei dop, ar gyfer llosgi arogl darth efallai, neu i ddal offrwm bach. Noder ei debygrwydd i golofnau carreg model. Ond nid yw tebygrwydd o ran ffurf o reidrwydd yn golygu tebygrwydd o ran defnydd. Cafwyd bod y colofnau model o galchfaen a’r rhai o bren o’r Deyrnas Ganol a ddarganfuwyd yn Kahun mewn cyd-destun domestig. Mae Petrie’n sôn am y rhain ac yn eu darlunio ynghyd ag eitemau mae ef yn eu dosbarthu fel ‘dish-stands’, ac mae’n dweud fod ganddynt bantiau ar eu top i ddal darnau bach o does, fel offrymau teuluol efallai. (Petrie 1890, 26, pl.XVI; Petrie 1891, 6, 11, pl.IV). Dywed Petrie hefyd i un gael ei ddarganfod yn Beni Hassan (Petrie 1890, 26). Mae David (1996, 134) yn dyfynnu Petrie ac yn disgrifio ‘a small stone stand in the form of a lotus column, which supported a saucer which had obviously been used for burning incense’

Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw’n un ni’n dyddio o’r Cyfnod Canol. Mae’r patrwm yn awgrymu mai Groegaidd-Rufeinig yw ac ni wyddom am enghreifftiau o darddle faience o’r dyddiad hwn fyddai’n rhoi cliw i ni ynglŷn â’i bwrpas. Tra nad yw’r ffaith fod ein un ni o ffurf debyg i ddalwyr offrymau a llosgwyr arogldarth y Deyrnas Ganol yn golygu defnydd tebyg, mae’r pant yn y top yn awgrymu mai llosgwr arogldarth neu ddaliwr offrwm yw e. Mae enghraifft faience yn dyddio o’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig yn Amgueddfa Gelfyddyd Prifysgol Indiana (92.483, gweler http://www.iub.edu/~iuam/online_modules/egypt/17.html).  Mae un arall yn dyddio o’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig yn Amgueddfa Petrie (UC69682), ac mae llawer o’r colofnau faience yn Amgueddfa Petrie (UC35357, UC35358, UC35359, UC35360) wedi’u dyddio o’r 12fed Frenhinllin a’u disgrifio fel ‘column models’. Caiff 58.170 yn Amgueddfa Brooklyn ei ddisgrifio fel capan diofryd faience. Ni wyddom a oes gan unrhyw rai o’r rhain bant yn eu top.

EC271b 

 

 

 

For more information on incense in ancient Egypt

Darllen pellach

David, R. 1996. The Pyramid Builders of Ancient Egypt. A Modern Investigation Of Pharaoh’s Workforce. London and New York: Routledge.

Petrie, W.M.F. 1890. Kahun, Gurob and Hawara. London: K.Paul, Tench and Trubener.

Petrie, W.M.F. 1891. Illahun, Kahun and Gurob. 1889-90. London: D. Nutt.

Phillips, J.P. 2002. The Columns of Egypt. Manchester: Peartree Publishing.

Tomoum, N. 2005. The Sculptors’ Models Of the Late and Ptolemaic Periods. A Study of the Type and Function of a Group of Ancient Egyptian Artefacts. Cairo: National Centre for Documentation of Cultural and National Heritage and the Supreme Council of Antiquities, Egypt, 104-127, plates 84-89.

Young, E. 1964. Sculptors’ Models or Votives. In Defense of a Scholarly Tradition’. The Metropolitan Museum of Art Bulletin. www.metmuseum.org/pubs/bulletins/1/pdf/3258242.pdf.bannered.pdf

 

css.php