• English
  • Cymraeg

Stela belonging to a woman

EC148

Stela o’r Cyfnod Canol Cyntaf yw hwn (noder y fenyw’n sefyll o flaen y dyn sy’n dangos ei bod yn bwysicach nag ef). Am y rhan helaethaf o hanes yr Aifft caiff dynion eu dangos yn sefyll o flaen menywod.

Mae’r fenyw’n sefyll yn dal lotws gyda choes hir o’i blaen. Mae’r wisg sydd amdani a’r ffaith bod tu blaen ei gwallt wedi’i rigoli yn awgrymu mai o Naqada (Fischer 1964, 52-53) y daeth y gwrthrych hwn.

Mae’r stela’n eiddo i fenyw, oherwydd, efallai, i lawer o ddynion gael eu lladd yn ystod y Cyfnod Canol Cyntaf, adeg o ryfel cartref. Mae’r fformiwla aberthu ar y stela: Aberth mae’r brenin yn ei roi, ac mae Osiris ym mhob man o’i eiddo yn ei roi, aberth diofryd, i’r parchedig un offrymau….’ Mae cynnwys yr ymadrodd ‘ym mhob man o’i eiddo’ yn yr ail linell yn nodweddiadol o’r 11eg Frenhinllin (Bennet, CJC ‘Growth of the Htp di nsw formula in the Middle Kingdom’ JEA 27, 1941, 77-82).

Other stelae in the Egypt Centre

css.php