• English
  • Cymraeg

EC1307

Votive footprint

EC1307

Slab marmor neu traventine gydag ôl troed wedi’i labelu mewn inc du ar ochr y gwrthrych ‘R. 4473/1936’. Gall y rhif fod yn dynodi mai rhan yw hwn o’r casgliad Gayer-Anderson. Mae’r slab yn mesur 34x21x3cm.

 

Ôl troed cerfwedd isel yw hwn o droed dde noeth. Mae graffiti traed i’w cael yn yr Aifft ac yn Nubia er, gan ei fod o’r casgliad Gayer-Anderson, mae’n debyg mai Eifftaidd yw hwn. Mae enghreifftiau Eifftaidd yn tueddu i fod yn fwy na’r maint naturiol. Mae rhai’n dangos traed noeth neu sandalau heb eu careio, neu weithiau gyfuniad o’r ddau. Weithiau mae ganddyn nhw arysgrifiadau perthnasol. Maen nhw i’w gweld mewn temlau, beddrodau, chwareli ac fel cerfiadau ar greigiau’r anialwch.

Mae Dunand (1979, 63-66) yn sôn am olion traed diofrydol mewn anheddau preifat wedi’u cysegru i Isis Thermouthis yn Karanis. Mae Castiglione (1971) yn gweld yr enghreifftiau o’r Aifft fel rhai diofrydol ac yn dyddio o’r cyfnod Groegaidd-Rufeinig. Er bod tystiolaeth y gallai rhai fod yn llawer cynharach (Kaper 2009; Shaw 2010, 97). Dywedir yn aml mai yn yr Aifft y dechreuwyd yr arfer o gerfio traed diofrydol ac iddo gael ei gario i wlad Groeg a mannau eraill gan gwlt Isis (Dunand 1973, pl. 17, 1,2; Sackho-Autissier 2006, 260-263) neu gwlt Isis a Serapis (Darnell 2003, 112).

Yn ôl pob tebyg roedd cerfio olion traed diofrydol ar balmentydd neu nenfwd temlau yn sicrhau bod y rhoddwr yn aros ym mhresenoldeb y duw (Darnell a Darnell 2002, 121; Jaquet-Gordon 2003, 5; Thissen 1989, 197-198 a Yoyotte 1960, 59-60).

Cyffeiriadia

Castiglione, L. 1971, ‘Footprints of the Gods in India and in the Hellenistic World; Influence or parallelism?’, Annales Archeologiques Arabes Syrennes 21, 25-37. 

Darnell, J.C. 2003. Review of Vahala and Cervicek, Katalog der Feslbilder, in Bibliotheca Orientalis60, 109-115. 

Darnell, J.C. in press. Ancient Rock Inscriptions and Graffiti in Shaw, I and Allen, J. eds. The Oxford Handbook of Egyptology. Oxford: Oxford University Press. 

Darnell, J.C. and Darnell, D. 2002. Theban Desert Road Survey in the Egyptian Western Desert. Volume 1. Gebel Tjauti Rock Inscriptions 1-45 and Wadi el Hôl Rock Inscriptions 1-45. Oriental Institute Publications vol. 119. Chicago: University of Chicago. 

Dunand, F. 1979, Religion Populaire en Egypte Romaine: Les terres cuites Isiaques du Musee du Caire. Leiden: E.J. Brill. 

Jaquet-Gordon, H. 2003, The graffiti on the Khonsu Temple Roof at Karnak: A Manifestation of Personal Piety. Oriental Institute Publications vol. 123. Chicago: University of Chicago. 

Kaper, OE. 2009, Soldiers Identity Marks of the Old Kingdom in the western desert,  in Haring, B.J.J and Kaper, O.E. eds. Pictograms or Pseudo- Script?: Non-textual Identity Marks in Practical Use in Ancient Egypt and Elsewhere. Proceedings of a Conference in Leiden, 19-20th December 2006. Leiden: Peeters, 169-178. 

Sackho-Autissier, A. 2006, ‘Quelques remarques sur le bloc Louvre E25562’, RdE 57, 260-263. 

Shaw. I. 2010. Hatnub: Quarrying Travertine in Ancient Egypt. London: Egypt Exploration Society. 

Thissen, H.-J. 1989. Die Demotischen Graffiti von Medinet Habu. Demotischen Studien 10. Sommerhausen: Gisela Zauzich Verlag. 

Yoyotee, J. 1960, Les pèlerinages dans l’Égypte ancienne. In Yoyotee, J. ed. Les Pèlerinages, Sources Oriental. Paris: Éditions du Seuil, 19-74.

css.php