• English
  • Cymraeg

EC1255

Patrwm plethedig sydd i hwn. Credir yn weddol gyffredinol fod i batrymau plethedig cymhleth alluoedd amddiffynnol, yn gwarchod rhag y llygad drwg. Y tuedd wrth edrych ar batrwm o’r fath yw olrhain llwybr y plethiad yn weledol, a thrwy hynny gadw’r llygad yn symud. (Llygadrythu oedd yn cael ei ystyried yn beryglus.) (Carroll 1988, 86).

Byddai medaliynau o’r fath yn cael eu defnyddio i addurno tiwnigau yn Aifft y mileniwm cyntaf OC. Byddai tiwnigau’r cyfnod Rhufeinig Diweddar yn cael eu haddurno â medaliynau wedi’u gosod mewn parau. Byddai un motiff yn mynd dros bob ysgwydd a’r ddau arall dros y ddwy ben-glin. Mae wedi’i awgrymu eu bod yn cael eu gosod i ddiogelu cymalau’r breichiau a’r pengliniau rhag niwed (Carol 1988, 84).

Darllen pellach

Carroll, D.L. 1988. Looms and textiles of the Copts. California Academy of Sciences.

Lewis, S. 1969. Early Coptic Textiles. Stanford: Stanford Art Gallery.

Pritchard, F. 2004. Clothing Culture: Dress in Egypt in the First Millenium AD. Clothing from Egypt in the collection of The Whitworth Art Gallery, The University of Manchester. Manceinion.

 

 

css.php