• English
  • Cymraeg

Yn yr hen Aifft roedd dynion yn ogystal â menywod yn gwisgo cosmetigau. Byddai eitemau cosmetig yn aml yn cael eu cynnwys ymhlith hanfodion angladdol, sy’n awgrymu eu bod yn cael eu hystyried fel offer angenrheidiol.

Roedd paletau’n cael eu defnyddio i falu pigmentau-llygad fel galena neu falachit gwyrdd (mwyn copr). Daethpwyd o hyd i baletau mor gynnar â c5500 CC. Cymerir yn ganiataol eu bod yn cael eu defnyddio i falu metelau i wneud addurn llygaid ac yn wir mae malachit wedi’i ddarganfod gyda rhai ohonynt. Mae tystiolaeth o ocr coch hefyd (e.e. (http://www.hierakonpolis-online.org/index.php/explore-the-predynastic-cemeteries/hk6-elite-cemetery/tomb-72). Nid oes sicrwydd ai fel minlliw, neu i gochi’r bochau neu fel paent corff arall y byddai’n cael ei ddefnyddio, ai ar gyfer rhywbeth heblaw’r corff dynol. Mae portread diweddarach o’r papyrws Turig erotig (P.5501) wedi’i ddehongli fel menyw yn defnyddio minlliw, ac mae cochi bochau’r frenhines Nefertari yn dangos, meddir, ddefnyddio paent ar gorff byw (Manniche 1999, 138-40). Ond, ym mhob achos, gellir cynnig dehongliadau eraill.

Roedd fersiynau mawr o’r paletau a oedd yn cael eu defnyddio i falu cosmetigau’n cael eu cynhyrchu ac yn ymddangos yn fwy seremonïol nac ymarferol. Roeddent yn cael eu rhoi mewn temlau yn hytrach nag mewn beddau. Yn wir, ymddengys fod yr arfer o ddefnyddio addurn wyneb â phwrpas crefyddol, ac mae sôn am baent llygaid gwyrdd yn Nhestunau’r Pyramidiau.

Ymddengys mai i fyny at ganol cyfnod yr Hen Deyrnas (c2900 CC) yr oedd malachit gwyrdd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf, wedyn disodlwyd ef gan y galena du (mwyn plwm) seiliedig ar cohl. Gallwch weld olion o’r cohl du y tu mewn i rai o’r potiau cosmetig sy’n cael eu harddangos. Yn ogystal â chael ei ddefnyddio i greu effaith addurnol, mae’n bosib y byddai cosmetig llygaid yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r llygaid rhag yr haul llachar ac i weithredu fel diheintydd naturiol. Efallai fod iddo hefyd gysylltiad â chrefydd.

I fyny at y 18fed Frenhinllin (c1550 BC), byddai cohl yn cael ei gadw mewn potiau bach gyda gwaelod gwastad. Yn ddiweddarach, llestr ar ffurf tiwb fyddai’n cael ei ddefnyddio. Mae rhai o’r ddau fath i’w gweld yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae potiau cosmetig y Ganolfan wedi’u gwneud o garreg neu faience. Byddai pobl dlotach wedi defnyddio pren.

Defnyddiai’r Eifftiaid ocr i gochi’u bochau. Roedd henna’n cael ei roi ar y gwallt, yr ewinedd, cledrau’r dwylo a gwadnau’r traed. Yn aml ceir drychau ym meddau menywod. Efallai y byddai dynion hefyd yn eu defnyddio ond anaml y byddent ym meddau gwrywod. O fetel wedi’i loywi yr oedd drychau’n cael eu gwneud – nid oedd wydr drych yn bod tan y Cyfnod Rhufeinig.

Byddai olew llysiau ac anifeiliaid yn cael ei bersawru a’i roi ar y croen. Efallai i nifer o’r potiau a arddangosir yma gael eu defnyddio i’r pwrpas hwn. Byddai’r olew persawrus yn cael ei godi allan o’r potiau trwy ddefnyddio llwyau arbennig, yn aml ar ffurf merched yn nofio. Mae’n cael ei ddweud yn aml fod menywod yn gwisgo conau o saim ar eu pennau mewn partïon. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen byddai’r saim yn toddi ac yn diferu dros eu gwallt a’u dillad! Fodd bynnag, cred eraill yw mai symbol hieroglyffig i ddangos fod y gwallt gosod yn bersawrus yw’r conau a welir ar furiau beddau.

Roedd persawr yn cael ei wneud o fyrr, datys yr anialwch, terebinth neu thus wedi’i gymysgu ag olew. Yn ôl awduron Rhufeinig, roedd menywod yr Aifft yn enwog am eu harogl persawrus.

Byddai dynion a menywod yn eillio’u croen neu’n defnyddio plicwyr. Efallai mai o garreg, neu o bosib aloi copr, fel yr un sy’n cael ei harddangos, y byddai raseli’n cael eu gwneud.

Byddai’r Eifftiaid, yn enwedig hufen cymdeithas, yn gwisgo gwallt gosod, yn aml ar ben eu gwallt eu hunain. Byddai gwallt gosod y menywod yn aml yn hir a thrwm; rhai byrrach fyddai rhai’r dynion. Rhai o wallt dynol dilys fyddent gan amlaf. Fel heddiw, byddai’r Eifftiaid yn defnyddio pob math o gymysgedd i geisio rhwystro’r gwallt i fritho, neu foelni.

Mae cerddorion benywaidd weithiau’n cael eu dangos gyda ffigwr o Bes wedi’i datŵio neu ei beintio ar eu cluniau. Cor-dduw gyda mwng llew oedd Bes. Roedd yn gysylltiedig â rhywioldeb a geni plant.

Darllen pellach 

Lucas, A.L., 1930. Cosmetics, perfumes and incense in ancient Egypt. Journal of Egyptian Archaeology 16, 41–53.

Manniche, L., 1999. Sacred Luxuries: Fragrance, Aromatherapy and Cosmetics in Ancient Egypt. Cornell University Press. 

Strouhal, E., 1992. Life in Ancient Egypt, University of Oklahoma Press, 84-9.

 

 

css.php