• English
  • Cymraeg

 

Roedd blodau o bob math yn boblogaidd iawn yn yr hen Aifft ac yn arbennig felly y lotws a’r lili. Roedd blodau’n cael eu defnyddio fel offrymau mewn temlau, i addurno mymïod ac fel garlantau mewn gwyliau. Byddent hefyd yn cael eu defnyddio fel motiffau, mewn cartrefi, ar ddodrefn a thlyswaith. Un o’r blodau mwyaf poblogaidd oedd blodyn gyda chanol melyn a phetalau gwyn. Nid oes sicrwydd ynglŷn â’i rywogaeth ond gan amlaf y farn yw mai camomil neu flodyn Mai ydyw, planhigyn sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan feddygon llysieuol heddiw. Mae rhai llyfrau Eifftoleg yn cyfeirio ato fel llygad y dydd neu rosglwm.

Roedd rhosglymau’n gyffredin mewn celfyddyd Eifftaidd mor gynnar â’r Frenhinllin 1af, o bosib fel symbol o frenhiniaeth. Mae lle i amau a oedd cysylltiad rhwng y rhosglymau cynnar hyn â’r rhosglymau diweddarach oedd yn amlwg yn flodau.

Roedd mewnosodiadau faience tebyg i’r camomil neu’r blodyn Mai yn cael eu cynhyrchu ar gyfer teils ac yn gyffredin iawn yn y 18fed Frenhinllin (1550 – 1295 CC), yn enwedig yn Amarna, ac yn yr 20fed Frenhinllin (1186 – 1069 CC). Mae’r blodyn yn addurno cerbydau rhyfel, sandalau, cadeiriau a blychau Tutankhamun. Roedd corff a cheudod abdomenol Rameses II wedi’u heneinio ag olew camomil (Manniche 1999, 115-116).

Dyma ychydig o eitemau perthnasol i’r llygad y dydd o’r Ganolfan Eifftaidd.

EC384– Gan amlaf daw teils faience fel y rhain o Tell el-Yahudiya ac roeddent yn boblogaidd iawn yn ystod yr 20fed Frenhinllin. O’r lleoliad hwnnw y daw’r deilsen hon mae’n debyg ac efallai iddi gael ei defnyddio i addurno’r tu mewn i adeilad cysylltiedig â bonedd. Am rai tebyg gweler Friedman (1998, 197)

 

ab56AB56

Styden glust wydr. Am rai tebyg gweler Brovarski et al. 1982, 231; Freed et al. 1999, 261, pl. 198 a Lacovara et al. 2001, 114–115.

  

W1265W1265–Darn o deilsen faience o Amarna. Byddai’r deilsen hon ar un adeg yn cynnwys mewnosodiadau o lygad y dydd. Cafodd ei darganfod yn y Palas Mawr yn Amarna yn ystod cloddiadau 1935. Gweler Freed, et al. 1999, ffig. 97, am enghraifft o deilsen gyfan. Os am weld enghraifft Amgueddfa Brooklyn, gweler: http://www.brooklynmuseum.org/opencollection/objects/3377 

 

 

W798W798­–

Plastr mur addurnedig o Amarna gydag addurn blodeuog. Daeth hwn o Balas Glanrafon y Gogledd yn Amarna ac mae’n dangos dau flodyn Mai. Cyhoeddwyd gan Weatherhead 2007, 230 a 229, ffig. 123.

 

Mae’n ymddangos bod blodau’r camomil, fel blodau eraill, yn symbolau o ailenedigaeth ac adfywiad (Stevens 2006, 76-77 gyda chyfeiriadau pellach).

 

 

 

Other items showing rosettes include:

W9 a beaded collar from Amarna

 

 

Darllen Pellach 

Brovarski, E. Doll, S.K. and Freed, R. E. 1982. Egypt‘s Golden Age. The Art of Living in the New Kingdom. 1558-1085 BC. Boston: Museum of Fine Arts.  

Freed, R. E., Markowitz, Y. J. and D’ Auria, S.H.,1999. Pharaohs of the Sun. Akhenaten, Nefertiti and Tutankhamun. Boston: Museum of Fine Arts.

 Freidman, F.D. (ed.) 1998. Gifts of the Nile. Ancient Egyptian Faience. London: Thames and Hudson. 

Hepper, F. N. 1990 Pharaoh’s Flowers: The Botanical Treasures of Tutankhamun, London: HMSO. 

Lacovara, P. Trope, B. T. and D’Auria, B. 2001. The Collector’s Eye. Masterpieces of Egyptian Art from the Thalassic Collection, Ltd. Atlanta: Michael C. Carlos Museum. 

Manniche, L. 1999. Sacred Luxuries, London: Opus Publishing.

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. BAR International Series 1587. Oxford: Archeopress.

Weatherhead, F. 2007 Amarna Palace Painting, London: Egypt Exploration Society.

css.php