• English
  • Cymraeg

 

Cathod

W103

Mae’r cerfddelw bach ar y chwith (W103) yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae wedi’i wneud o aloi copr. Gellir gweld yr eurwaith yn ei lygad o hyd. Byddai cerfddelwau o’r fath yn cael eu cyflwyno fel offrymau i dduwiesau cathaidd. Roedd yn rhan o gasgliad Rustafjaell a brynwyd gan Wellcome ym 1906.

 

Mwy na thebyg bod cathod gwyllt wedi’u dofi yn yr Aifft erbyn 2000 CC ac maen nhw’n ymddangos ar baentiadau beddrod fel anifeiliaid anwes ac fel cynrychiolwyr o’r duwiau. Erbyn y Cyfnod Diweddar roedd miloedd o gathod dof yn cael eu lladd a’u mymïo fel offrymau i’r duwiau. Roedd crwyn cathod gwyllt yn cael eu defnyddio fel dillad seremonïol trwy’r Aifft Pharaonig ac mae cathod dof a gwyllt yn ymddangos mewn golygfeydd hela.

Mae’n anodd gwybod pryd y dofwyd cathod gyntaf.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod fod nifer o gerfddelwau ohonynt erbyn y Deyrnas Ganol. O tua 1450 CC maen nhw’n ymddangos fel addurn ar furiau mewn beddrodau Thebaidd. Weithiau cânt eu dangos yn gwisgo clustdlysau a chadwyn wddf.

Y gair Eifftaidd am gath oedd miu, (fel y sŵn a wna cath, mewian). Er bod cathod yn cael eu defnyddio fel anifeiliaid anwes, ychydig iawn o’u henwau a wyddom. Mae’n ymddangos mai eithriad yw’r gath ym meddrod Puimre yn Thebes c.1450 CC – mae hi’n cael ei galw’n ‘Un annwyl’ neu’n ‘Un hyfryd’.

Roedd cathod yn aml yn cael eu cyplysu â menywod ar furiau beddrodau’r Deyrnas Newydd, tra’r oedd dynion yn cael eu cyplysu â chŵn. Hefyd, roedd motiff o gath yn aml yn addurno tlyswaith a oedd yn eiddo i freninesau. Roedd llew gan amlaf yn cael ei gysylltu â brenhiniaeth.

Gallai nifer o dduwiau a duwiesau gymryd ffurf cath i ddynodi eu nodweddion gwarcheidiol. Doedd hyn, fodd bynnag, ddim yn golygu bod yr Eifftiaid yn credu bod pob cath yn gysegredig. Yr hyn a gredent oedd y gallai duw gael ei wneud yn weledig yng nghorff cath.

Roedd y rhain yn cynnwys:

Mafdet duwies gath-debyg sy’n cael ei disgrifio ag ewinedd yn y Pyramid Texts. Mae’n ymddangos bod ei hymrithiad yn debycach i gath fwy, fel llewpard.

Mae Bastet, prif dduwies dinas Bubastis (fersiwn Groegaidd o Per-Bastet yr hen Eifftiaid a olygai ‘Tŷ Bastet’) weithiau’n ymddangos â phen llewes. Erbyn yr 22ain Dynasty, fodd bynnag, mae fel arfer yn cael ei chysylltu â’r gath ddof. Efallai mai’r nodweddion sy’n gyffredin i dduwies a chath yw ffrwythlondeb a’r reddf i fagu. Erbyn y Cyfnod Ptolemaidd, gŵyl Bastet oedd un o’r rhai mwyaf poblogaidd yn yr Aifft ac roedd llawer o alcohol yn cael ei yfed yn ystod yr ŵyl hon.

Roedd Re, duw’r haul, yn gallu cael ei amlygu fel cwrcath. Fel hyn y darllen Swyn 335 o’r Coffin Texts: ‘Fi yw’r Cwrcath Mawr a holltodd y goeden-ished ar ei hochr ar y noson o ryfela ac atal gwrthryfelwyr, ac ar ddydd dinistrio gelynion Arglwydd Pob Peth. Pwy yw’r Cwrcath Mawr hwn? Y duw Re ei hunan ydyw. Cafodd ef ei alw’n gath pan soniodd Sia amdano ei fod yn mewian wrth wneud ei waith, a dyna sut y daeth yr enw ‘cath’ i fodolaeth.’ Mae Swyn 17 o Lyfr y Meirw hefyd weithiau’n cael ei darlunio gyda chath yn lladd neidr â chyllell.

Mae Mut yn cael ei hystyried yn gymar benywaidd i Amun. Weithiau caiff ei phortreadu â phen cath. Mae ei henw yn hynod o debyg i’r enw Eifftaidd am gath fenyw, mit.

Yn ogystal â Bastet, mae hefyd nifer o dduwiesau sy’n gysylltiedig â’r llewes. Sekhmet er enghraifft, a Pakhet. Mae’r duwiesau hyn gan amlaf yn cael eu hystyried yn arswydus. Ymddengys eu bod yn cael eu hystyried fel amlygiadau o ochr fwy ffyrnig duwiesau fel Bastet. Mae stori Eifftaidd sy’n sôn am Sekhmet yn cael ei anfon allan i gosbi dynolryw ac am yr afon Nîl yn llifo’n goch gan waed. Roedd yn rhaid ei rwystro. Lliwiwyd cwrw’n goch ac yfodd Sekhmet ef, gan feddwl mai gwaed ydoedd. Yna trodd yn Hathor, duwies wedi’i heddychu. Mae Hathor, Mut, Sekhmet ac Isis i gyd yn ferched i Re ac yn cymryd lle’r naill y llall ym mytholeg yr Aifft.

Mae cathod a duwiau â phen cath yn ymddangos ar gyllyll amddiffynnol hudol ac mewn darluniau o’r isfyd. Yn Llyfr Amduat mae’r duw â phen cath yn torri pennau ei elynion. Yn y Tŷ Marwolaeth yn y Ganolfan Eifftaidd, mae amwledau faience ar ffurf cath. Mae gennym hefyd gerfddelwau aloi copr o gathod a oedd, o bosib, wedi’u cysegru yn nhemlau duwiesau cathaidd. Mae gennym hefyd gath wedi’i mymïo. Roedd llawer o gathod yn cael eu magu a’u lladd cyn iddynt dyfu i’w llawn dwf er mwyn medru eu cyflwyno’n offrymau. Bryd arall cathod wedi’u lladd o gathdai’r temlau oeddent. Nid oedd y ffaith y gallai anifail gael ei ddefnyddio fel amlygiad o dduw yn golygu na allai’r rhywogaeth gael ei defnyddio gan feidrolion. Yn olaf, mae gan y Ganolfan Eifftaidd ddwy goes gwely ar ffurf llew, ac maen nhw i’w gweld yn y Bywyd. Roedd y llew yn symbol o ailenedigaeth ac o’r herwydd byddai coesau gwely ar ffurf llew yn briodol i sicrhau ail-ddeffro. Mae coesau o’r fath hefyd yn ymddangos ar fyrddau mymïo.

W529 Cartonnage from a cat mummy

  

Darllen Pellach

Malek, J., 1993. The Cat in Ancient Egypt. London: British Museum Press. 

Ikram, S. (ed.) 2005. Animal Mummies in Ancient Egypt. Cairo: The American University in Cairo.

css.php