• English
  • Cymraeg

 

W930

W312b

Modrwyau bawd (a elwir weithiau yn ‘ollyngiadau saethwyr’) yw’r eitemau hyn. Yn Abydos mwy na thebyg y cafwyd rhai ohonynt a’r lleill o bosib o gloddiadau John Garstang ym 1910 ym Meroë yn Nubia. Mae eitemau fel hyn gan amlaf yn cael eu hystyried yn Nubaidd.

 

Roedd eitemau o’r fath yn cael eu defnyddio i ddiogelu’r bawd wrth dynnu’r bwa yn ystod saethyddiaeth. Maen nhw’n parhau i gael eu defnyddio heddiw, yn enwedig yn Asia ble mae’r llinyn yn cael ei gydio a’i dynnu gan ddefnyddio ‘clo bawd’ (neu ollyngiad Mongolaidd) yn hytrach na defnyddio dau neu ragor o fysedd. Gellir gwneud modrwyau bawd o garreg, pren, asgwrn, metel neu ledr. Mae hyd yn oed enghraifft wydr yn bodoli (Welsby 1996, 42). Gall enghreifftiau heddiw fod o blastig.

 

Nid yw’r math o afael sy’n gofyn am fodrwy fawd yn cael ei ddangos mewn celfyddyd Eifftaidd. Fodd bynnag, mae celfyddyd Feroitig yn dangos brenhinoedd a breninesau’n gwisgo modrwyau bawd ac mae gan Amgueddfa Celfyddyd Gain Boston nifer o’r rhain o Nubia sydd wedi’u dyddio i 90CC-AD40. Maen nhw wedi’u darganfod yn aml mewn beddau Meriotig gyda chyfarpar saethyddiaeth arall. Er bod enghreifftiau Eifftaidd i’w cael, mae’r rhain yn tueddu i fod o gyfnod diweddarach. Cloddiwyd modrwy fawd arian yn dyddio o OC 750-850 yn Fustat (Nicolle 1997, 58). Os yw’r enghreifftiau hynny a restrwyd fel rhai’n dod o Abydos yn wir o’r Aifft, efallai eu bod yn cynrychioli hurfilwyr Nubaidd.

 

Meroë oedd prifddinas teyrnas Kush rhwng 800 CC a c.350 OC. Roedd pobl Kush yn enwog fel saethwyr ac yn cael eu defnyddio fel hurfilwyr yn yr Aifft.

 

Hollow based arrowheads

Lunate arrowheads

First Intermediate Period Soldier Stela EC62 and W1366

 

Cyfeiriadau

McLeod, W. 1982. Self bows and archery tackle from the tomb of Tutankhamun. Oxford: Griffith Institute, 64. (with further references). 

Nicolle, D. 1997. Arms of the Umayyad era: Military technology in a time of change, in Lev, Y. War and society in the eastern Mediterranean, 7th-15th centuries, Leiden: Brill, 9-100. 

Welsby, D.A.  1996. The Kingdom of Kush: The Napatan and Meroitic Empires. London: The British Museum.

 

 

css.php