• English
  • Cymraeg

Amun

AB106

Cerflun bach aloi copr o’r duw Amun yw hwn. Roedd eitemau o’r fath yn cael eu gosod fel offrymau diofryd i’r duwiau mewn temlau.

Yn ystod y 5ed Dynasty y cawn y sôn cynharaf am Amun a chyfeirir ato fel cymar Amaunet. Fodd bynnag, i’r Deyrnas Ganol, ac yn ardal Thebes, y perthyn y temlau cynharaf i Amun y gwyddom amdanynt. Roedd pedwar o lywodraethwyr y Deyrnas wedi cymryd yr enw Amenenhet sy’n golygu ‘mae Amun yn ddigymar’.

O’r Deyrnas Newydd ymlaen ef oedd y duw taleithiol pennaf a chodwyd cofgolofnau iddo ledled y wlad. Bryd hynny roedd yn rhan o Driad Thebes gyda’i wraig Mut, a’i fab Khonsu.

O’r Deyrnas Newydd ymlaen roedd Amun yn aml yn cael ei gysylltu â Re, duw’r haul, ac o’r herwydd yn cael ei alw’n Amun-Re. Mae hefyd yn cael ei gysylltu â Min, duw ffrwythlondeb, ac o’r herwydd yn cael ei ddisgrifio fel Amun Kamutef (‘tarw ei fam’). Erbyn y Cyfnod Ptolomaidd roedd yn cael ei ystyried yn gydradd â Zeus.

Pan fyddai Amun yn cael ei bortreadu ar ffurf ddynol gwisgai gilt a phenwisg pluog o blu dwbl, ond gellir ei weld hefyd â phen hwrdd. Yn achlysurol gall gael ei gynrychioli gan ŵydd, llew â phen hwrdd, babŵn, ac yn llai aml fel neidr.

Roedd Amun yn dduw poblogaidd ymhlith y bobl gyffredin ac yn cael ei adnabod fel ‘gweinidog y llariaidd’ ac ‘ef sy’n dod fel llais y tlawd’. Nid yw amwledau o Amun yn ymddangos tan y Trydydd Cyfnod Canolradd(1069-747 CC) ac maent gan amlaf o ansawdd uchel sy’n awgrymu mai gan offeiriaid yn ei wasanaeth roeddent yn cael eu gwisgo. Roedd ei allu’n cael ei ddefnyddio mewn swynion i roi amddiffyn rhag sgorpionau, crocodeilod ac anifeiliaid peryglus eraill.

Un o ddau gerflun o Amun sy’n cael eu dangos ar lawr isaf Canolfan yr Aifft yw hwn. Rhoddion ydynt gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth a dyddiant i’r Cyfnod Ptolemaidd (332-32 CC). Roeddent yn cael eu gosod mewn temlau fel offrymau diofryd i’r duwiau. Yn yr oriel i fyny’r grisiau mae gennym arddangosfa fach am offrymau diofryd.

Related objects in other cases

The situla in the downstairs king’s case has a depiction of Amun-Min. 

The Third Intermediate coffin in the downstairs gallery belonged to a priestess who was ‘Chantress of Amun’. She would have worked in the temple of Amun at Thebes. Several of the shabtis in the shabti’s case, and one of the footboards in the animal’s case also belonged to priestesses who were ‘Chantresses of Amun’. 

As stated above, Amun was associated with several different animals. You can see them in the animal’s case. 

Other votive offerings can be seen in a case upstairs.

Further Reading

Assmann, J. 1995. Egyptian Solar Religion in the New Kingdom: Ra, Amun and the Crisis of Polytheism. London. 

Wilkinson, R. H., 2003. The Complete Gods and Goddesses of Ancient Egypt. London: Thames and Hudson.

css.php