• English
  • Cymraeg

 

Gall pob un o’r gwrthrychau hyn gael eu dosbarthu fel ‘amwletig’ gan eu bod yn eitemau bach cysylltiedig â’r corff sy’n amddiffynnol. Fodd bynnag, mae llawer o eitemau eraill yng Nghanolfan yr Aifft sydd â phwrpas tebyg ac sydd hefyd yn amwletig. Er enghraifft, pwrpas y befelau modrwy gydag enw’r brenin arnynt sydd yn yr oriel i fyny’r grisiau oedd helpu’r gwisgwr i ennill peth o allu’r brenin hwnnw, am fod brenhinoedd, yn rhannol, yn dduwiau. Gallai rhwymynnau mymi gyda swynion wedi’u hysgrifennu arnynt fod yn amwletig hefyd. Yn y llyfryn hwn rydym wedi rhannu’r amwledau i amddiffynnol, meddiannu a pherchnogi, gallu, cymhathu, ayb. Fodd bynnag, dim ond un ffordd o’u rhannu yw hon a gall un amwled roi i’r gwisgwr allu yn ogystal ag amddiffyniad.

Yr hen air Eifftaidd am amwled oedd meket, nehet or, sa or wedja. ??? Ystyr y tri cyntaf yw gwarchod neu amddiffyn ac ystyr yr olaf yw ffyniant.

Roedd amwledau’n cael eu gwisgo gan y byw yn ogystal â’r marw. Roedd rhai amwledau, fel Pedwar Mab Horus ac Anubis yn cael eu gwisgo gan amlaf gan fymïaid, ond gallai amwledau eraill, fel Bes, gael eu gwisgo yn ystod bywyd.

Gwyddom ychydig am y gwahanol amwledau a phwrpas eu defnyddio o Swynau’r Testunau Pyramidiau, Testunau Eirch a Llyfr y Meirw. Mae yna hefyd restrau o amwledau ar furiau temlau ac mae rhai o babyri angladdol y Dynasty Diweddar yn dangos sut roedd gosod amwledau ar fymïod.

Yn aml iawn roedd y deunydd roedd yr amwled wedi’i wneud ohono o bwys yn y defnydd ohonynt. Felly, er enghraifft, mae amwledau cornelian lliw coch yn gysylltiedig â gwaed, trais, egni a nerth. Mae llawer o’r amwledau wedi’u gwneud o faience. Roedd faience yn hawdd i’w fowldio i wahanol ffurfiau. Roedd iddo hefyd arwyddocâd crefyddol am ei fod yn ddisglair fel y meirw bendigaid a’r duwiau.

 

css.php