• English
  • Cymraeg

 

Amarna Flint (the Egypt Centre and Beyond)


Mae gan y Ganolfan Eifftaidd, fel casgliadau eraill o eitemau Eifftaidd, nifer o lafnau cryman, sy’n dod o Amarna. Gwyddom mai llafnau cryman ydynt am fod rhai’r un fath o leoedd eraill wedi eu darganfod mewn coesau cryman pren. Mae rhai hefyd yn arddangos sglein cryman o ganlyniad i dorri deunydd planhigion, er bod dadlau ynglŷn â sut cafodd cryman ei sglein (Meeks 1982; Unger-Hamilton 1984).

Mae Spurrel (1894, 37) yn dweud i lawer o lafnau cryman gael eu darganfod yn agos i domennydd gwastraff y plas (Canol y Ddinas) ac i naddion garw gael eu darganfod ym maestref y de. Mae Miller (1987) yn awgrymu i’r gweithio cyntaf, efallai, gael ei wneud yn y maestrefi deheuol a’r llafnau cryman wedyn ger y plas. Fodd bynnag, fe all mai dim ond ffitio’r llafnau cryman ar y coesau oedd yn digwydd yn y safle hwn. Mae fflint hefyd wedi ei ddarganfod mewn cyd-destunau eraill yn Amarna.

Yn wahanol i lafnau cryman cynnar oedd wedi’u gwneud o lafn o fflint, ymddengys mai o fflawiau y gwnaed llawer o ddarnau Amarna. Maen nhw’n lletach na’r llafnau cryman cynharach ac yn aml nid oes lawer o dystiolaeth i’r blank fod wedi bodoli fel llafn. Gwnaeth Spurrel, arbenigwr Petrie ar fflint, astudiaeth o fflint Amarna (1894, 37) a sylwi ym maestref y de fod nifer fawr o gerigos cyffredin, a oedd wedi’u hollti gan effaith natur, wedi’u casglu at ei gilydd ar gyfer cael eu defnyddio. Efallai i rai ohonynt gael eu defnyddio i gynhyrchu’r llafnau/fflawiau cryman.

Cafwyd nifer fawr o lafnau cryman yn y Brif Dref yn Amarna, ond dim un ym Mhentref y Gweithwyr (Miller 1989, 144). Yno, yn hytrach, daethpwyd o hyd i bicas, wedi’i gwneud efallai o fflint tiwbaidd. Mae’r ffynonellau fflint o ardal Amarna yn cynnwys fflint tiwbaidd a chnapiau yn ogystal ag offer Paleolithig sydd eisoes wedi’u llunio a gafwyd yn y cyffiniau.

Nododd Miller (1987) hefyd dystiolaeth o weithio fflint yn rwbel bedd ger Pentref y Gweithwyr. Ymddengys i greiddiau gael eu cafnu allan ar safle’r rwbel bedd. Roedd yr amrywiaeth yn y creiddiau yn awgrymu i Miller (1987, 147) fod yr ysglodwyr yn gymwys ond heb fod yn arbenigwyr. Cafwyd hefyd lafnau a fflawiau heb eu hatgyffwrdd (Spurrel 1894, 37). Dywed Spurrel (1894, 38) ‘of the remaining tools only a few pieces need be mentioned, which might have been used to scrape a limestone surface.’ Efallai fod yr offer sydd heb eu cyhoeddi yn cynnwys y mathau canlynol: crafwyr crwn (e.e. Ashmolean 1893 1-41 929), ‘llathrwr’ wedi’i loywi (Petrie Museum UC 145), a gwahanol fflawiau heb eu hatgyffwrdd (e.e. Petrie UC146), ebill dril consentrig (Manchester M11523). Efallai ei bod yn syndod na chafwyd yn Amarna gyllyll fflint, gan eu bod i’w cael ar safleoedd eraill o gyfnod y Deyrnas Newydd. Dim ond llafnau cryman sydd gennym yn y Ganolfan Eifftaidd

Roedd mastig yn cael ei roi ar lafnau cryman i’w cysylltu â’u daliwr pren. Gellir ei weld ar rai o lafnau cryman Canolfan yr Aifft. Credai Spurrell (1894) mai o gŵyr yr oedd wedi’i wneud ond fe allai resin fod wedi cael ei ddefnyddio. Dangosodd Endlicher and Tillmann (1997) i blastr calch gael ei ddefnyddio i roi coesau ar lafnau cryman yn Tell el Daba y 18fed Dynasty.

Nid dewis person tlawd yn lle metel oedd fflint ac mae fflint a metel i’w cael ochr yn ochr mewn tai yn Amarna. Mae’r ffaith i’r math barhau tan gyfnod y Deyrnas Newydd yn awgrymu nad oedd aloi copr yn ddewis ymarferol. Efallai mai’r rheswm oedd bod cyflenwad parod o fflint ar gael, ond nid felly copr. Neu efallai mai oherwydd bod fflint mewn rhai ffyrdd yn amgenach. Dangosodd Steensberg (1943, 11-26) a Coles (1973, 34-39) fod crymanau fflint yn well na rhai copr a chystal â rhai efydd. Nid oedd gan fflint gystadleuydd gweithredoI tan i haearn gael ei gyflwyno ar ôl cyfnod y Deyrnas Newydd (roedd haearn yn cael ei ddefnyddio’n gynharach ond heb gael ei ddefnyddio’n gyffredin tan y Cyfnod Diweddar).

sickle2

Bedd Sennedjem. Noder y defnydd o’r cryman

Cyfeiriadau a darllen pellach

Andrevsky, W. Jr., 1998. Lithics. Macroscopic Approaches to Analysis. Cambridge: Cambridge University Press.   

Coles, J. 1973. Archaeology by experiment. New York: Scribner’s.   

Endlicher, G. and Tillmann, A. 1997. Lime Plaster as an Adhesive for Hafting Eighteenth-Dynasty Flint Sickles from Tell el Dab’a, Eastern Nile Delta (Egypt), Archaeometry 39(2), August 1997, 333-342.

Frankfort, H. 1927. Preliminary Report on the Excavations at Tell el-‘Amarna, 1926-7, Journal of Egyptian Archaeology 13, 209-218.

Meeks et al. 1982. Gloss and Use-Wear Traces on Flint Sickles and Similar Phenomena, Journal Archaeological Science. 9, 317-340.

Miller, R. L. 1987. Flaked Stone from the Workmen’s Village. Amarna Reports IV. B. J. Kemp. London: Egypt Exploration Society, 144-153.   

Peet, T.E. and Woolley, C.L. 1923. The City of Akhenaten Part I. London: The Egypt Exploration Society.

Unger-Hamilton, R. 1984. The Formation of Use-wear Polish on Flint: beyond the ‘Deposit Versus Abrasion’ Controversy. Journal Archaeological Science 11, 91-98.

Spurrell, F.C.J. 1894. ‘Flint Tools from Tell el Amarna.’ In Petrie, WMF, Tell el Amarna. London, 37-38.

Steensberg, A. 1943. Ancient Harvesting Implements. Copenhagen: Nationalmuseets Skrifter.

css.php