• English
  • Cymraeg

 

Amarna Objects In the Egypt Centre


Mae yng Nghanolfan yr Aifft dros 200 o eitemau y credwn iddynt ddod o Ddinas Amarna. Arteffactau yw’r rhain y gwyddom hynny amdanynt drwy eu cysylltiad ag adroddiadau cloddio, drwy dystiolaeth eu cyn-berchnogion eu bod yn dod o’r safle hwnnw, neu oherwydd eu bod, i ddod yma, yn dwyn rhifau cloddio Amarna. Gellir gweld rhestr lawn o’r arteffactau hyn ar ein cronfa ddata yn y galeri uchaf drwy chwilio o dan tref neu ddinas (mae’r cronfa ddata ar hyn o bryd yn y Ganolfan ond yn fuan bydd ar ein safle ar-lein – www.swansea.ac.uk/egypt).

Mae yn awr ar ein tudalen ryngrwyd daflenni gwybodaeth yn ymwneud â gwrthrychau Amarna y gellir eu lawr lwytho. Dilynwch y cyswllt i ‘the collection’ ar y chwith. Gellir gweld cronfa ddata o wrthrychau y gwyddom amdanynt sy’n cael eu cadw yng Nghaergrawnt ar: http://www.amarnaproject.com/images/recent_projects/material_culture/amarna_object_database.xls

Daw mwyafrif arteffactau Amarna sydd yng Nghanolfan yr Aifft o Gasgliad Wellcome a ddaeth i’r Brifysgol yn 1971. Mae casgliad Wellcome Abertawe yn cynnwys arteffactau a gasglwyd gan y fferyllydd Syr Henry Wellcome. Gellir cael gwybodaeth amdano ar ein safle gwe, neu o daflen wybodaeth. Byddai’n casglu arteffactau o dai arwerthu, unigolion preifat a hefyd yn prynu eitemau o gloddfeydd (drwy Gymdeithas Archwilio’r Aifft). Mae gwrthrychau Amarna eraill y Ganolfan i’w holrhain i rodd o ddeunydd gan yr Amgueddfa Brydeinig yn 1978 a rhodd o amwledau gan Amgueddfa Frenhinol Caeredin yn 1973.

O edrych ar ein cronfa ddata fe sylwch fod nifer o rifau’n gysylltiedig ag arteffactau yng Nghanolfan yr Aifft. Pan welwch ‘TA’ ar ddechrau rhif, mae’n cyfeirio at rif y cloddiad, er enghraifft ‘TA36.19’. Dim ond rhif sydd ar wrthrychau eraill, er enghraifft 312. Weithiau gellir cyplysu rhif cloddiad y gwrthrych ag adroddiadau o’r cloddiad. Gwrthrychau a gatalogiwyd gan y Ganolfan cyn 1997 yw’r rhai sydd â ‘W’ o flaen y rhif (bryd hynny roeddent yn cael eu galw’n ‘Wellcome Collection at Swansea’). Mewn rhai enghreifftiau mae mwy nag un rhif ‘W’ ar wrthrych. Y rheswm yw i’r arteffact gael ei gatalogio fwy nag unwaith! Un rhif amgueddfa yn unig am bob gwrthrych sydd yn y catalog presennol a ddefnyddir gan y Ganolfan. ‘Rhif blaenorol’ yw unrhyw rif ychwanegol arall. Arteffactau a gatalogiwyd ar ôl 1997 yw’r rhai sydd ag ‘EC’ o flaen y rhif. Rhoddwyd rhifau ‘EC’ arnynt am nad oedd yn glir ar y pryd ai o gasgliad Wellcome oeddent wedi dod ai o ffynhonnell arall. Yn olaf, mae rhai rhifau mawr, er enghraifft 153983, rhifau a roddwyd i’r gwrthrychau gan weithwyr Wellcome. Yn ein catalog mae’r rhain wedi’u cofnodi gydag W mewn cromfachau ar ôl y rhif, er enghraifft ‘153983 (W)’.

Dylid cofio nad yw’r gwrthrychau sydd yng Nghanolfan yr Aifft yn adlewyrchu holl amrywiaeth y deunydd a fyddai i’w gael yn y ddinas. Arteffactau wedi’u dewis yw’r rhain oherwydd:-methiant arteffactau eraill i gyrraedd wyneb y tir, gwrthrychau wedi dirywio yn y ddaear, difrod yn ystod y cloddio, cloddio am fathau arbennig o arteffactau’n unig, casglwyr yn dewis mathau arbennig yn unig ayb. Roedd syniadau’r cloddwyr a’r casglwyr cynnar (gan gynnwys amgueddfeydd) ynghylch y pethau oedd yn bwysig i’w casglu yn wahanol i rai’r oes bresennol. Er enghraifft, nid oedd cyswllt/cyd-destun rhywbeth mor bwysig ag yw’n awr.

Gellir prynu taflenni gwybodaeth ychwanegol am wrthrychau Amarna yn y Ganolfan. Mae’r rhain yn cynnwys:

Amwledau a Befelau

Crochenwaith Amarna

Fflint Amarna

Gwydr Amarna

 

css.php