• English
  • Cymraeg

 

AB58

Mae’r plicwyr hyn o Abtdos i’w dyddio i’r 18fed Frenhinllin. Maen nhw wedi eu gwneud o un darn o fetel (aloi copr). Maen nhw’n 69mm o hyd. Mae’r math gyda phen gwasgedig yn cychwyn yn y 18fed Frenhinllin (Capel a Markoe 1996, 75-76). Gweler hefyd (1917, 51, plâu. LXII. LXIV) am ffurfiau tebyg.

Byddai eitemau o’r fath yn cael eu defnyddio i gael gwared ar flew corff a/neu flew wyneb a gellid eu defnyddio gan ddynion neu fenywod. Mae arlunwaith yn dangos yn eglur mai wynebau wedi’u heillio oedd gan ddynion yr Aifft trwy’r rhan fwyaf o hen gyfnodau hanes y wlad. Ni ddangosir blew corff ac roedd wedi ei wahardd yn achos offeiriaid. Ymddengys hefyd nad oedd blew corff yn cael ei ystyried yn ddymunol gan fenywod (Derchain 1975, 74). Am ragor o wybodaeth ar driniaethau harddwch cyffredinol yn yr hen Aifft gweler Manniche (1999).

Byddai plicwyr yn cael eu defnyddio hefyd yn ystod mymieiddio i dynnu allan organau mewnol ayb. (Janot 2000) ac fe’u defnyddid hefyd, mwy na’r tebyg, wrth wneud gwaith meddygol.

Rhodd gan Brifysgol Aberystwyth yw’r plicwyr hyn.

 

Cyfeiriadau

Capel, A., K. and Markoe, G., E. (eds.), (1996), Mistress of the House, Mistress of Heaven. Women in Ancient Egypt. New York: Hudson Hills Press.  

Derchain, P. (1975), ‘La Perruque et le Cristal’. Studien zur Altägyptischen Kultur, 2, 55–74. 

Janot, F. (2000), Les Instruments d’Embaumement de l’Égypte ancienne.  Cairo: Institut français d’archéologie orientale. 

Manniche, L. (1999), Sacred Luxuries: Fragrance, Aromatherapy, and Cosmetics in Ancient Egypt. New York: Cornell University Press. 

Petrie, W.M.F. (1917), Tools and Weapons. London: British School of Archaeology in Egypt.

More information on hair removal

 

 

css.php