• English
  • Cymraeg

AB20

AB20

Darn o fwgwd dauwynebog Hathor, rhan o sistrwm, math o ratl, mwy na thebyg. Mae wedi’i fowldio ar y ddwy ochr â phen Hathor.

Mae sistrwm arall, mwy cyfan, yn y gist hon (W553) a thaflen wybodaeth ar wahân am y math hwn o offeryn.

Byddai pennau Hathor ar ffurf sistrymau’n aml yn cael eu hoffrymu mewn temlau i’r dduwies Hathor o’r Deyrnas Newydd ymlaen. Tra mai o faience y mae’r mwyafrif ohonynt, mae enghreifftiau o fetel wedi’u canfod yn Timna (Pinch 1993, 145). Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol mai sistrwm a gafodd ei ddefnyddio i greu cerddoriaeth yw hwn.

Roedd Hathor yn cael ei chysylltu’n agos â’r sistrwm ac â cherddoriaeth yn fwy cyffredinol. Hi yw un o’r ychydig fodau dwyfol sy’n cael ei dangos â’i hwyneb yn edrych tuag ymlaen, y llall yw Bes.

Cyfeiriadau

Pinch, G. 1993. Votive Offerings to Hathor. Rhydychen: Griffith Institute.

 

 

 

css.php