• English
  • Cymraeg

A232 Ancestor Stela                                                                                                                                            Darn o stela carreg yn dangos person â blodyn lotws (lili’r dŵr) yn ei law. Mae’n 10cm o uchder.

Mae’r arysgrif yn dangos mai ‘stela hynafiad’ yw hwn wedi ei gysegru i ‘ysbrydion bendigaid’ Re. Daethpwyd o hyd i lawer o’r rhain mewn cartrefi, er i eraill gael eu darganfod mewn capeli a beddau. Mae Eifftolegwyr yn credu y gallent, o bosib, fod yn fodd i’r byw gysylltu â’r meirw. Yn Deir el Medina y daethpwyd o hyd i’r rhan fwyaf ohonynt ac maent yn dyddio o Gyfnod Ramesside (1295-1069 CC) er ei bod yn debygol mai o Abydos y daw’r stela hwn.

Caiff pwysigrwydd hynafiaid i’r byw ei gadarnhau mewn llawer ffordd. Mae yna lythyrau i’r meirw (Donnat 2002; Wente 1990). Gwyddom oddi wrth destunau fod dŵr yn cael ei arllwys ar gyfer y meirw trawsffurfiedig. Mae dysgeidiaeth Any yn annog rhoi offrymau o fewn y cartref i rieni (Weiss 2009). Ac mae yna hefyd benddelwau hynafiaid. Gellid ystyried y gêm fwrdd senet fel dull o gysylltu â’r meirw.

Mae arwyddocâd crefyddol y blodyn lotws ar y stela’n cynnwys gallu ei arogl i adfywio. Roedd arogl hefyd yn gysylltiedig â sancteiddrwydd, arogl y duwiau, a gyda’r ymadawedig yn mynd i mewn i fywyd tragwyddol. Roedd yn offrwm addas i’r duwiau ac i’r ymadawedig ac yn bwysig mewn golygfeydd o bartïon yfed ar furiau beddau’r Deyrnas Newydd lle mae gwesteion yn arogli blodau lotws.

Rhodd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Darllen pellach:

Published in Griffin, Ken 2007. An Akh ikr n rA stela from the collection of the Egypt Centre, Swansea. In Schneider, T. and Szpakowska, K. Egyptian Stories, A British Egyptological Tribute to Alan B. Lloyd On the Occasion of His Retirement, Munster, 137–147.

Demaree, R. 1983. The Ax uqr n Ra-stelae: On ancestor worship in ancient Egypt. Egyptologische Uitgaven. Leiden.

Donnat, S. 2002. Le bol support de la Lettre au Mort: wers la mise en evidence d’un ritual magique. In Koenig, Y. (ed.), La magie en Egypte. Paris.

Weiss, L. 2009. Personal religious practice: house altars at Deir el-Medina. Journal of Egyptian Archaeology, 95. 193–208.

Wente, E. 1990. Letters from Ancient Egypt. Atlanta.

 

 

 

css.php