• English
  • Cymraeg

Model Column Capitals


 EC261Mae gan y Ganolfan Eifftaidd ddau gapan colofn model, EW168C261 (chwith) a W168 (de). Mae’r rhain yn rhy fach i fod wedi cael eu defnyddio fel colofnau pensaernïol go iawn. Yn aml iawn byddai arteffactau diofryd yn cael eu gwneud yn llawer llai na’r arteffactau iawn ac mae’n bosib mai eitemau diofryd yw’r rhain. Ar y llaw arall, efallai mai modelau cerflunydd ydynt, eitemau cyffredin rhwng y Cyfnod Diweddar a’r Groegaidd-Rufeinig yn yr Aifft (Tomoun 2005).

Mae gan amgueddfeydd eraill wrthrychau tebyg. Mewn carreg y mae’r mwyafrif, er enghraifft mae gan y Metropolitan 10.175.47, 6.99.138 a 12.182.6. Mae nifer o Amgueddfa Cairo Museum yn cael eu darlunio yn (Tomoun 2005). Mae gan Amgueddfa Berlin o leiaf 4 (Schäfer a Andrae 1925, 427, 659). Mae enghraifft faience yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Indiana (92.483, gweler http://www.iub.edu/~iuam/online_modules/egypt/17.html) yn dyddio o’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig. Mae un arall yn Amgueddfa Petrie (UC69682) yn dyddio o’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig, a nifer yn Amgueddfa Petrie (UC35357, UC35358, UC35359, UC35360) yn dyddio o’r 12fed Frenhinllin. Mae 58.170 yn Amgueddfa Brooklyn wedi’i ddisgrifio fel colofn ddiofryd faience.

Mae pant ar dop y capan ar y chwith. Mae’n bosib, felly, fod y golofn yn rhan o stand ar gyfer llosgi arogldarth. Does dim pant yn yr un ar y dde. Yn fwy na hynny, dydy’r un ar y chwith ddim yn ymddangos fel darn cyfan, a gallai fod yn bilastr addurnedig, anorffenedig, neu doredig. Mae patrwm cymhleth yr un ar y chwith yn awgrymu dyddiad Groegaidd-Rufeinig. Mae capanau cyfansawdd pedwar-llabed fel hwn i’w cael mewn temlau Groegaidd-Rufeinig (e.e. y golofn orllewinol yn neuadd fynediad y mammisi yn Nheml Isis yn Philae, (Phillips 2002, 204, ffig.409) a chafwyd enghraifft Ptolemaidd model debyg yn Dendera (Tomoum 2005, rhif.172 p242, pl.84c).

EC271Mae’r capan ar y chwith, EC271, wedi’i wneud o faience. Mae pant fel soser ar ei dop, ar gyfer llosgi arogl darth efallai, neu i ddal offrwm bach. Noder ei debygrwydd i golofnau carreg model. Ond nid yw tebygrwydd o ran ffurf o reidrwydd yn golygu tebygrwydd o ran defnydd. Cafwyd bod y colofnau model o galchfaen a’r rhai o bren o’r Deyrnas Ganol a ddarganfuwyd yn Kahun mewn cyd-destun domestig. Mae Petrie’n sôn am y rhain ac yn eu darlunio ynghyd ag eitemau mae ef yn eu dosbarthu fel ‘dish-stands’, ac mae’n dweud fod ganddynt bantiau ar eu top i ddal darnau bach o does, fel offrymau teuluol efallai. (Petrie 1890, 26, pl.XVI; Petrie 1891, 6, 11, pl.IV). Dywed Petrie hefyd i un gael ei ddarganfod yn Beni Hassan (Petrie 1890, 26). Mae David (1996, 134) yn dyfynnu Petrie ac yn disgrifio ‘a small stone stand in the form of a lotus column, which supported a saucer which had obviously been used for burning incense’. 

Darllen pellach

David, R. 1996. The Pyramid Builders of Ancient Egypt. A Modern Investigation Of Pharaoh’s Workforce. London and New York: Routledge.

Petrie, W.M.F. 1890. Kahun, Gurob and Hawara. London: K.Paul, Tench and Trubener.

Petrie, W.M.F. 1891. Illahun, Kahun and Gurob. 1889-90. London: D. Nutt.

Phillips, J.P. 2002. The Columns of Egypt. Manchester: Peartree Publishing.

Tomoun, N. 2005. The Sculptors’ Models Of the Late and Ptolemaic Periods. A Study of the Type and Function of a Group of Ancient Egyptian Artefacts. Cairo: National Centre for Documentation of Cultural and National Heritage and the Supreme Council of Antiquities, Egypt, 104-127, plates 84-89.

Young, E. 1964. Sculptors’ Models of Votives. In Defense of a Scholarly Tradition’. The Metropolitan Museum of Art Bulletin.

 

css.php