• English
  • Cymraeg

 

WK36

Amaethyddiaeth

Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith yn yr Hen Aifft gan y bobl hynny a oedd yn gweithio ar y tir. Adlewyrchir hyn mewn llawer o’r arteffactau a ganfyddir mewn beddau. Er enghraifft, bwriad pennafshabtis oedd gwneud gwaith eu perchnogion yn y bywyd tragwyddol, a nhw oedd yn cludo offer amaethyddiaeth. Fel arfer, cânt eu dangos gyda bag hadau ar eu cefnau a hofiau yn eu dwylo. Ar y chwith, gallwch weld shabti sy’n cludo dwy hof. Dangosir rhai ohonynt gyda mowldiau briciau. Yn wir, mae swyn y shabtis yn cyfeirio’n benodol at wneud y caeau’n dir âr.

Yn ogystal, ceir erydr pren neu hofiau yn aml iawn mewn beddau. Er y defnyddid y rhain yn fwy na thebyg ar gyfer hofio defodol, roedd eitemau o’r fath yn hanfodol i fywyd bob dydd ar hyd y Neil. Yn ogystal ag erydr pren, roedd erydr copr ar gael hefyd.

Ar safleoedd anheddol, mae llafnau crymanau ym mhobman. Gellir canfod yr eitemau hyn yn eu cannoedd o safle brenhinol Amarna, er enghraifft.

 

css.php