• English
  • Cymraeg

Siop anrhegion y Ganolfan Eifftaidd yw’r lle perffaith i brynu rhywbeth i’ch atgoffa am eich ymweliad â’r amgueddfa. Rydym yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau, gan gynnwys llyfrau, copïau o arteffactau, gemwaith hyfryd, anrhegion i blant a llawer mwy!

Mae’r siop anrhegion yng nghyntedd yr amgueddfa ar y llawr gwaelod.

Does gan y siop anrhegion ddim cyfleusterau siopa ar-lein, ond rydym yn hapus i ateb cwestiynau am nwyddau a derbyn archebion a thaliadau dros y ffôn ac anfon nwyddau drwy’r post at gwsmeriaid.

Ffoniwch Reolwr Blaen y Tŷ, Angharad Gavin, ar 01792 602660 neu anfonwch e-bost naill ai i a.gavin@swansea.ac.uk neu egyptcentre@abertawe.ac.uk am ragor o fanylion.

css.php